Hanes Henaint. 1799.
Reading edition
Glywch gwynfan clychawg anferth Gan Brydydd annedwydd nerth: Daeth henaint oed wth ynnwyf, Dirfawr nych, a darfu’r nwyf. I’m henaint ymwahanodd Alar a meth lawer modd.
Methiant ar ffrwythiant ftraeth Cry’ hoff helynt corftfolaeth, O’m traed i’m pen daeth gwendid, Cymysgrwydd, llesgrwydd, a llid: Llid na bawn mor llydan bum, A mynwesdeg mewn ystum, Yn gallu canu cynneddf, Liosog rym, lais a greddf. Hwyl hyf oedd gennyf i gân, Arwydd utgorn ar ddatgan; Ond weithian, myned waethwaeth, Bref braint, f’ysgyfaint sy gaeth; Pesychu, mewn pwys uchel, Fy ngrudd ei chystudd ni chêl; Torri ’nghrib at fy niben Mae’r byd—fe ddaw marw i ben.
Meirw wnaeth fy nhadmaethod, A’m cyfeillion, feithion fod; Chwithdod a syndod yw sôn, Mewn gafael am hen gofion: Drwy edrych, wrthrych warthryw Yr ystum y bum i byw. Fy athrylithr yn llithrig, Ac gyda chwant, gwaed, a chig; Ias fyw oedd fy ysfa i, Anian burwyllt yn berwi; Byw awch gynneddf bachgennyn, A geidw gof, iawn ddof yn ddyn.
Dysgais i ddewrllais ddarllen, Ar waith fy mhwys, wrth fy mhen; A ’sgrifennu, mynnu modd Rhieni, er mor anodd; Byddai mam yn drwyngam dro, Ran canwyll oedd rhinc honno; Fy nghuro’n fwy annghariad, A baeddu’n hyll, byddai ’nhad; Minnau’n ddig o genfigen, Câs o’m hwyl, yn cosi mhen, Ac o lid, fel gwael adyn, Llosgi ’ngwaith, yn llesg ’y ngwŷn.
Er hynny, ’n ol trefnu tro, I’r un natur awn eto; Ym mhob dirgel gornel gau, Fy holl wiwfryd fu llyfrau; ’Sgrifennwn res grai fynych, Mewn hunan grwm yn nhin gwrych; Symud bys, rhag ysbys gau, Lle’n wallus, i’r llinellau; A’m gwaith nos dangos wnai’r dydd, Mor fywiog, a mawr f’awydd; Fy holl wanc a’m llwyr amcan, Ddarllain ac olrhain rhyw gân.
Amryw Sul, bu mawr y sias, Trafaeliwn i Bentre’r Foelas, At Sion Dafydd, cludydd clau, Hoen lewfryd am hen lyfrau. Ac Edward, enwog awdwr, Pwyllus, ddeallus dda wr, Taid Robin, Bardd Glyn y Glaw, Fyw feithrin, fu fy athraw. A Dafydd, llyfrgellydd gwiw, Awdwr hoew-fraint o Drefriw: Cynullwyr canu ollawl, A hanesaidd henaidd hawl.
Bu feirw rhai’n, fu gywtain g’oedd. Llwfr gollwyd eu llyfrgelloedd: Amser a wisg frisg o frad, Anwadal gyfnewidiad; Amryw draill mawr droelli, Fu yn fy amser ofer i. Bu beirdd yn fy heirdd fywhau, Gwest awen, megis duwiau; Tomos, o Dai’n Rhos, dyn rhydd, Ar wiwnaws yr awenydd; Ei ddisgybl ef, ddwysgwbl un, Lais hygoel, fum las hogyn, A’i fynych ysgrifennydd, Ar droiau’n ddiau drwy ddydd; Gwaith prydyddion moddion mad, Fu ddelwau fy addoliad.
O! mor werthfawr, harddfawr hyf, Ac anwyl fyddai gennyf Gwrdd Huw Sion, a’i gyson gerdd, Bardd Llangwm, bwrdd llawengerdd; A Sion, mewn hoewlon helynt, Bu lew gerdd, o’r Bala gynt. Ac Elis, wr dibris daith, Y Cowperfardd, co’ purfaith; A Dafydd, unydd anian, Llanfair gynt, llawen fu’r gân; A Iorwerth Ioan, lân wledd, O Bodfari, byd fawredd; Ac Ifan Hir, cu fwynhad, Cyff amaith, ac offeiriad; Y gŵr hwn, â gwawr heini Prydydd, a’m priododd i: A’r clochydd, brydydd breudeg, Llon fu ’r dydd yn Llanfair deg, A Sion Powel, gwirffel gân, Wrth iau athrawiaeth Ieuan, Gweuai seinber gysonbell Hoew iach waith—nid haiach well.
Hyn o gyfeillion heini Fu a’u sain yn fy oes i; Wele ’rwyf, wae alar wynt, Heno heb un ohonynt.
Ond mae tri, mewn llawnfri lled, O heneiddfeirdd hoen aeddfed; Rhys ab Sion, blaeuion y bleth, Llên fyw awchrym, Llanfachreth; A Rolant, arddeliant dda, Llwyr belydr gerllaw’r Bala; A Bardd Collwyn, glodfwyn glau, Sydd nennawr ein swydd ninnau, Fe ganodd fwy gynneddf wir, Na’r un dyn bron adwaenir. Dyma dri, caf brofi braint, Eu mwyn hanes mewn henaint; A henaint sy wehynydd, A’i nod yw darfod bob dydd.
Wele wagedd, wael ogyd, Cyfeillion, meillion fy myd, Ni wiw rhyw edliw rhydlawd, Broch i’w gnoi yw braich o gnawd; Pa gred ymddiried am dda, Siomiant yw pob peth s’yma; Ni feddaf un f’ai addwyn, I ddodi cerdd, neu ddweyd cwyn; Marw Samwel, f’ymresymydd, Cyfrinach bellach ni bydd.
Hynny sydd o hynaws hawl, A nodded awenyddawl, A myg maeth Prydyddiaeth dêg, Yu Llundain mae enw llawndeg; Ni waeth yma, noeth amod, Ro’i’n lân fy nghân yn fy nghôd.
Aed cân fach bellach i’w bedd, Yn iach ganu uwch Gwynedd; Tra fo’r iaith, trwy ofer ol, Beunydd, mor annerbyniol; Yn enwedig bon’ddigion, Leuad hwyr, yn y wlad hon; Rhyw loddest ar orchest rhydd, Yw holl wana’u llawenydd, Cadw cwn, helgwn yn haid, Hoffa tôn, a phuteiniaid, Ac yfed gwin, drwy drin drwg, A choledd twyll a chilwg; Trwm adrodd trem edryd, Llwm oer barch, mai llyma’r byd, Na cheiff Bardd “Gardd o Gerddi,” O fraint mo’r cymaint a’r ci.
Ond, er gwenwyn dewr gwannaidd, Gwneyd diben f’awen pwy faidd? Ffynnon yw a’i phen i nant Ffrwd breiniol ffriw di briniant; Dull geudwyll nid eill godi Rhestrau hadl i’w rhwystro hi.
Er a welais o drais draw, Rhai astrus am fy rhwystraw, Ac er colli gwyr callwych, Tra gallaf rhodiaf fy rhych.
Wynebu’r wyf at fy niben, Llewyrch oer, fal Llywarch Hen; A’m Cynddelw i’m canddaliad Yw gwawr gwên fy awen fad; Awen a ges, o wres rydd, Ac awen sai’n dragywydd.
Gradd o Dduw yw gwraidd awen, Bid iddo’n ffrwyth mwyth, Amen.