← Table of contents
Gwaith Twm o'r Nant

Anwyl Gyfaill.

Reading edition

Cerdd i annerch cyfaill caredigol, pan oedd dan groesau a blinderau.

(Alaw.—“Y Galon Drom.”)

Anwyl gyfaill, rwy’n dy gofio, A gweddi mynych, gan ddymuno I Dduw roi llwyddiant er pob lludded Yn graff i’th onest gorff a’th ene’d; A dal dy draed ar Graig yr oesoedd, Er pob helynt, Eiddig oeddynt, a ddigwyddodd; Ac er pob peth a ddigwydd eto, Duw fo i’th dywys, Yn gyhoeddus, rhag tramgwyddo.

Cefaist yma lawer damwain, Megys rhybudd cerydd cywrain; Mae’r Saer-celfydd ymhob cilfach, Am dy docio i’th wneyd yn decach, Torri ceinciau d’ anystyriaeth, Harddu’r Eglwys, Caer hoff wiw-lwys, mewn corpholaeth, Bwrw’r gwarthus bnynu a gwerthu Hwnt o’r deml, I fan isel a fyn Iesu.

Gwel fod ffraeth ragoriaeth gaerog Rhwng gwir blentyn a gwas cyflog; Rhaid i’r plentyn etifeddol, Gyrraedd didwyll gerydd tadol; Nid ydyw rhai na chânt yn weddaidd Fflangell barod, Bwys awdurdod, ond bastardaidd; Dal dy sêl a gwel y gwaelod, Plentyn cyfan Wyd ti dy hunan i’r Tad hynod.

Cariad Crist a ddarfu’n dirion Deg arwyddo’n dy geryddon; Efe, cofia, sydd drwy’r cyfan, A’i ddawn ollawl i’th ddwyn allan; Ar Job gynt ca’dd Satan weithio; Darfu’n rhydost Gnoi, di a’i gwyddost, gnawd ac eiddo; Ond cadwe ’i enaid gwedi hynny— Rhyfedd, nerthol, Anhebgorol, mae Duw’n caru.

A gadwo Duw a fydd cadwedig Trwy ddwfr a thân, a gwawd a dirmyg; Nid oes dim all niweid egraidd I rai garant Dduw’n gywiraidd; Mae pob rhyw bethau’n rhannau’r rhei’ny Yn gweithio beunydd Oreu deunydd er daioni; A gwyn ei fyd y diwyd ffyddlon A ail aned, A Duw’n gywled yn ei galon.

Yr Eglwys ydyw’r hardd dreftadaeth, A chalon dyn yw’r pren gwybodaeth; Mae’n ffrwyth gwa’rddedig ynddi’n canlyn, Gwyliwn drwyddo goelio’r gelyn; Pwyll a sobrwydd sydd angenrhaid, Dal ar orchwyl Oen Duw anwyl yn dy enaid: “Fy mab,” medd Duw, “moes im’ dy galon”; Dyna’r d’ioni, Gyda nyni, ymgadw yn union.

Y galon yw’r ystafell addas, Tŵr puredig, ty’r briodas; Os gwelir un hen wŷn yn honno, Ac heb y wisg briodas ganddo, Rhwymwch, deliwch, draed a dwylo, I’r t’w’llwch enbyd, Lwyra gofid, ’lawr ag efo; Caiff pawb ond plant y ddinas burlan, Eu troi, dyallwch, I’r tywyllwch, o’r tu allan.

Cans oddi allan mewn swydd hyllig Mae’r cwn a’r swyn-gyf’reddwyr eiddig, Puteinwyr a llofruddwyr gwaedlyd, A phob celwyddwyr, yfwyr hefyd, Addolwyr eulyn, ddwl oer alwad, Ni ’dwaenant olau, Dawn a geiriau Duw, na’i gariad; A’r holl broffeswyr hunan-gnawdol, Nid yw eu rhyfyg, A’u dull unig, ond allanol.

Gwyliwn fod ar nôd annedwydd, Rhaid dal yn agos at yr Anglwydd, A ffoi i Soar am anrhydedd: Ni thal sefyll ar wastadedd, Fel gwraig Lot, a ddarfu gychwyn, Ei gwlad a’i chartre, Fodd anaele, fu iddi’n elyn. Chwant y cnawd, a llygredd cyhoedd, Allant dyfu I’th anafu o borth y nefoedd.

Llawer ffordd a llawer cwestiwn Sydd yn t’wyso rhyw demtasiwn; Gormod cyfle, a mynych arfer, Eill ein hudo ni o’n llawn hyder; Er bod doethineb mawr yn Sal’mon, Merched lledrydd, Draws eu gilydd, droes ei galon; Er gwneyd teml Dduw yn ’i ddechreu, F’ aeth i weithio, Dan wenh’eithio, i’w duwiau nhwytheu.

O! mor llithrig ydyw llwybyr Tuedd dyn i fynd wrth natur; Rhyfedd gariad a thrugaredd, Fod rhai’n sefyll hyd y diwedd; Os ai fel Pedr dros y llwybrau, Gweddia’n fynych, I Dduw edrych, di ddoi adrau: Golwg Iesu a’n galwo’n gyson, A’i air fo’n llosgiad, Unig hwyliad yn ein calon.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings