← Table of contents
Gwaith Twm o'r Nant

Cyffes y Bardd.

Reading edition

Wrth edrych, aruthr adrodd, Fy ystum, fel bum o’m bodd, O hyd fy oes, di-foes daith, Fyw yn ben-rhydd, fab arnhaith Ymledu ’n annheimladwy I fynnu ’mâr, fwy na mwy, Dilynais, a diawl ynnwyf, Bob cnawdol annuwiol nwyf,— Nid oedd un o du ei ddiawl, Am a allai, mwy hollawl, Nag odid mewn rbyddid rhwydd, Mwy’n fedrus am ynfydrwydd.

O! mor hylithr y llithrwn I bob gwagedd serthedd swn Ymhlith meddwon aflonydd, A naws i’w dal, nos a dydd.

Fy chwedlau fu fach hudlawn, Yn abwyd, neu rwyd yr awn; Hualau, ar hyd heolydd, Garw ei sain, o’m geiriau sydd; Cig a physgod, i’m nodi, Am foddio’ nwyf fyddwn i; Mynych y bum ddymunol, Am wneyd ffair menywod ffol; Gweniaith a phob drygioni Fu fy mhleser ofer i.

Och feddwl afiach foddion, Ffieiddrwydd hynt y ffordd hon; Mi ledais fel malwoden, Lŷsg o’m hol i lesghau ’mhen;

A’m calon pan f’wi’n coelio, Fy llysg drwg fydd yn llesg dro: Nyth ydwyf, annoeth adail, Deml y fall, nid aml ty ail; Daear afluniaidd dywyll, A llyn du, yn llawn o dwyll: Tŵr annedd pob trueni Yw ty nghalon eigion i.

A pha mwyaf gaf heb gudd, O fwriad eu llaferydd, Mwy-fwy mawr-ddrwg amlwg wŷn, A swn dialedd sy’n dilyn; Cyfyd cof, amryw brofiad, O’m heuog, afrywiog frad; Gan mor drwm yn y clwm clau A chadarn fy mhechodau.

Och edrych eglur-ddrych glau Helyntion y talentau; Fy nhalent erbyn holi, Gwaedd yw son, a guddiais i, Tan fy llygraidd ffiaidd ffol, Yn fy naear annuwiol. Duw a roes, da yw ei rad, Fy awenydd, fyw Ynad; Minnau troes, mewn enaid rhydd, I’r gelyn, er oer g’wilydd.

’Mroddais, eisteddais yn stol Gwatwarwyr, gnawd daearol; Yn lle bod, hynod wiw hawl, Ar lan afon, le nefawl, Yn dwyn ffrwyth, at esmwythder, Fel y pren plan, purlan pêr.

Ond Och! Ydwyf bechadur, Fel llwyn sarff, neu ’fallen sur: Ffigys-bren, neu wernen wyf, Ddi-ffrwyth, hyd oni ddeffr’wyf; Chwith yw’r farn, fy chwythu fydd, Fel mân ûs ar fol mynydd, Oni chaf, iawn awch ufydd, Rym i ffoi trwy rwymau ffydd, A chalon gwir ddychweliad, I’m troi at faddeuant rhad.

I’r hyn Duw, o’m rhan dywyll Rhwymau barn, rho i mi bwyll I gydnabod mewn tlodi, ’Th ras haeddianuol doniol Di, Yn troi’r hadl, rai afradlon, At weli, er mor bell y b’on.

Duw i’th ras yn urddas ne’, Er mwyn fy enaid myn finne’, Yn ollawl, gyflawn allan, Fel pentewyn, tynn o’r tân, Wael bechadur dolur dig, A llesg adyn llosgedig. Trywana fi o’m trueni, Gwel dy fab gwael ydwy’ fi; Dwg f’ enaid i’th drigfanne, O fy Nuw, er ei fwyn E’.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings