XXXV., XXXVI. I’r Ysgol.
Reading edition
Mi af i’r ysgol fory, A’m llyfyr yn fy llaw; Heibio’r Castell Newydd, A’r cloc yn taro naw; Dacw mam yn dyfod, Ar ben y gamfa wen, A rhywbeth yn ei barclod, A phiser ar ei phen.
Mi af i’r ysgol fory, A’m llyfyr yn fy llaw, Heibio’r Sgubor Newydd, A’r cloc yn taro naw; O, Mari, Mari, codwch, Mae heddyw’n fore mwyn, Mae’r adar bach yn canu, A’r gôg ar frig y llwyn.