← Table of contents
Yr Hwiangerddi

CCLIII.—CCLVII. Calennig. [99]

Reading edition

CCLIII.—CCLVII. Calennig. [99]

Calennig yn gyfan Ar fore dydd Calan, Unwaith, dwywaith, tair.

Mi godais yn fore, Mi gerddais yn ffyrnig, At dŷ Mr Jones i ofyn calennig; Os gwelwch yn dda, Am swllt a chwecheiniog, Blwyddyn newydd dda Am ddimai neu geiniog.

Dydd Calan, cynta’r flwyddyn, ’Rwy’n dyfod ar eich traws, I ymofyn am y geiniog, Neu glwt o fara a chaws; Edrychwch arna i ’n siriol, Newidiwch ddim o’ch gwedd, Cyn daw Dydd Calan nesaf Bydd llawer yn y bedd.

Mi godes heddi mas o ’nhy, A’m ffon a’m cwdyn gyda fi; A thyma’m neges ar eich traws, Yw llanw ’nghwd o fara a chaws.

Dydd Calan yw heddy, onite? Na rowch chwi ddim i blant y dre; Ond rhowch galennig pert dros ben I blant Cwm Coi a phlant Dre Wen.

Notes in this chapter

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings