← Table of contents
Yr Hwiangerddi

CCXCII. Storiau Hen Gaseg.

Reading edition

Mi ddeuda i ti stori,— Hen gaseg yn pori. Mi ddeuda i ti ddwy,— Hen gaseg ar y plwy. Mi ddeuda i ti dair,— Hen gaseg yn y ffair. Mi ddeuda i ti beder,— Hen gaseg yn colli pedol. Mi ddeuda i ti bump,— Hen gaseg ar ei phwmp. Mi ddeuda i ti chwech,— Hen gaseg frech. Mi ddeuda i ti saith,— Hen gaseg fraith. Mi ddeuda i ti wyth,— Hen gaseg yn rhoi pwyth. Mi ddeuda i ti naw,— Hen gaseg yn y baw. Mi ddeuda i ti ddeg,— Hen gaseg ar y clwt teg.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings