← Table of contents
Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards

CWYDD MARWNAD LLEUCU LLWYD.

Reading edition

Lleucu Llwyd ydoedd rian rinweddol, nodedig am ei glendid a’i phrydferthwch, yn byw yn Mhennal, ar lan yr afon Dyfi, oddeutu pedair milltir o Aberdyfi, ar ffordd Machynlleth, yn y 14eg canrif. Cerid hi â chariad pur gan Llewelyn Goch ap Meirig Hen, o’r Nannan, gerllaw Dolgellau. Ond nid oedd ei thad mewn un modd yn foddlawn i’r garwriaeth, ac achubai bob cyfle i yru annghariad rhwng Lleueu a Llewelyn. Un tro, dygwyddodd i Lewelyn Goch fyned ar daith i’r Deheubarth, a daeth ei thad at Lleucu, adywedodd wrthi, er mwyn diddyfnu ei serch oddiar y bardd, fod Llewelyn wedi ymbriodi yno â merch arall. Pan glywodd Leucu yr ymadrodd byn, hi a syrtbiodd mewn llewyg, ac a drengodd yn y fan! Dychwelodd Llewelyn adref; ac ofer ceisio darlunio ei deimladau pan ddeallodd fod hyfrydwch ei lygaid wedi huno yn yr angau; a than ei deimladau cyffröus ar yr achlysur, efe a gyfansoddod yr alarnad ganlynol, am yr hon, er holl gloffrwymau’r gynghanedd gaeth, y gellir dywedyd, megys y dywedodd Daniel Ddu am alargwyn Burns ar farwolaeth ei Highland Mary, mai cerdd ydyw a fydd byw nes bo i holl dyrau, dawn syrthio i lynclya annghof tragwyddol.

Yr oedd yr anffodus Lewelyn Goch yn fardd penigamp yn ei ddydd; a chyfrifir ei fod yn ei flodau o’r flwyddyn 1330 i 1370. Argraffwyd chwech o’i gyfansoddiadau yn y gyfrol gyntaf o’r Myfyrian Archaiology of Wales; ac y mae amryw o bonynt yn aros hyd yn hyn mewn llawysgrifen heb weled goleuni dydd. Nid ydys yn gwybod fod yr alarnad a ganlyn wedi ei bargraffu erioed o’r blaen. Y mae yn ein meddiant gyfieithiad Saesonig o honi mewn rhyddiaeth, o waith Ieuan Brydydd Hir; ac efelychiad o fesur cerdd, yn yr un iaith, o waith y diweddar Risiart Llwyd, Bardd Eryri. Ysgrifenwyd marwnad Llewelyn Goch ei hun gan Iolo Goch.

Y mae, neu o leiaf yr oedd, caead arch un Lleucu Llwyd, yr hon a fu farw yn y flwyddyn 1402, i’w weled yn Eglwys Llaneurgain, yn ar Fflint; ond nid ymddengys mai Lleucu Llwyd o Bennal yw y rhian a goffëir yno. Yr oedd Lleucu Llwyd Llaneurgain yn ferch i Rys ab Rhobert, o’r Cinmael, ac yn wraig i Hywel ab Tudur, o’r Llys, ynmhlwyf Llaneurgain, ac yn nith i’r bardd Dafydd Ddu o Hiraddug. Hywel ab Tudur ydoedd un o henafiaid y teuluoedd presenol sy’n dwyn yr enw Mostyn.

Y mae Llewelyn a Lleucu, yn gystal testyn cerdd a Romeo and Juliet; ond, pa le mae’r Shacspear Cymraeg i ysgrifenu trychwawd arno?—Y Brython.

Llyma haf llwm i hoew-fardd, A llyma fyd llwm i fardd! Nid oes yng Ngwynedd heddiw, Na lloer, na llewyrch, na lliw, Er pan rodded—trwydded trwch— Dan lawr dygn dyn loer degwch. Y ferch wen o’r dderw brenol, Arfaeth ddig yw’r fau o’th ol! Cain ei llun, canwyll Wynedd, Cyd bych o fewn caead bedd! F’ enaid! cyfod i fynu, Agor y ddaiar-ddor ddu! Gwrthod wely tyfod hir, A gwrtheb f’ wyneb, feinir! Mae yma, hoewdra hydraul, Uwch dy fedd, hoew annedd haul, Wr llwm ei wyneb hebod, Llewelyn Goch, gloch dy glod; Yn cynnal, hyd tra canwyf, Cariad amddifad ydd wyf;— Ud-fardd yn rhodio adfyd O Dduw gwyn! hyd hyn o hyd. Myfi, fun fwyfwy fonedd, Echdoe a fûm uwch dy fedd, Yn gollwng deigr lled eigr-braff Ar hyd fy wyneb yn rhaff: Tithau, harddlun y fun fud, O’r tew-bwll ni’m hatebud! Tawedawg ddwysawg ddiserch, Ti addawsud, y fud ferch, Fwyn dy sud fando sidan, Fy aros, ddyn loew-dlos lân, Oni ddelwn, gwn y gwir, Er dy hud, o’r Deheudir, Ni chigle, sythle saeth-lud, Air na bai wir, feinir fud, Iawn-dwf rhïanaidd Indeg, Onid hyn o’th eneu teg. Trais mawr! ac ni’m tawr i ti! Toraiat ammod, trist imi, Tydi sydd yn y gwŷdd gwan Ar y gwir, ddyn deg eirian! Minnau sydd uthrydd athrist Ar y celwydd—tramgwydd trist! Celwyddawg iawn, cul weddi, Celwydd lais a soniais i. Mi af o Wynedd heddyw, Ni’m dawr ba faenawr i fyw: Fy myn foneddig ddigawn, Duw’n fach, petid iach nid awn! P’le caf, ni’m doraf dioer, Dy weled, wendw’ wiw-loer? Ar fynydd—sathr Ofydd serch— Olifer, yn oleu-ferch. F’ enaid yno ä’n fynych, O’th wela’, ddyn wiwdda wych. Lleucu dêg waneg wiwnef! Llwyr y dyhaeraist fy llef; A genais, llygorn Gwynedd! Eiriau gwawd i eiry ’i gwedd, O’r geneu yn organawl, A ganaf, tra fyddaf, fawl. F’ enaid hoen geirw afonydd! Fy nghaniad dy farwnad fydd. Lliw-galch rian oleugain, Rhy gysgadur o’r mur main! Rhiain fain, rhy anfynych Y’th wela’; ddyn wiwdda wych. Cyfod i orphen cyfedd, I edrych a fynych fedd; At dy fardd ni chwardd ychwaith, Erot, dal euraid dalaith! Dyred, ffion ei deurudd, I fyny o’r pridd-dŷ prudd! Anial yw f’ ol, canmoleg, Nid twym yw fy neudroed teg, Yn bwhwman gan annwyd Cylch drws dy dŷ, Lleucu Llwyd! A genais, lygorn Gwynedd, O eiriau gwawd i eiry ’i gwedd, Llef dri-och, llaw fodrwy-aur, Lleucu! llawenu lliw aur. Cymhenaidd, groew, loew Leucu! Ei chymmyn, f’ anwyl-fun, fu Ei henaid, grair gwlad Feiriawn, I Dduw Dad—addewid iawn; A’i mein-gorff, eiliw’r mangant, Meinir, i gyssegr-dir sant: Dyn pell-gwyn doniau peill-galch, A da byd i’r gwr du balch; A’r hiraeth, cywyddiaeth cawdd, I minnau a’i cymmynawdd. Lleddf ddeddf ddeuddaint ogyfuwch, Lleucu Llwyd, lliw cawod lluwch! Pridd a main, glain galar chwerw, A gudd ei deurudd, a derw. Gwae fi drymder y gweryd A’r pridd ar feistres y pryd! Gwae fi fod arch yn gwarchae, A thy main rhof a thi mae! Gwae fi, ferch wen o Bennal, Brudded yw briddo dy dal! Clo du derw—galar chwerw gael— A daiar, deg ei dwyael! A throm-goed ddor, a thrym-gae, A llawer maes, rhof a’i lliw mae; A chlyd fur, a chlo dur du, A chlicied—yn iach, Leucu!

Llewelyn Goch ap Meirig Hen.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings