← Table of contents
Gwaith Samuel Roberts

CILHAUL UCHAF. (continued 2)

Reading edition

“Pw, pw, baili, paid a phoeni dim ynghylch eu gwedd a’u gwisg a’u hymddangosiad. Pe caem ni unwaith olwg ar bridden yr hen guineas, dyna’r peth i ni. Yr oedd amryw briddenod o hen guineas yn y gymdogaeth yma ddeugain mlynedd yn ol, ond yr ydym ni wedi eu hadgyfodi oll o’u beddau. Da di, dyfeisia ryw ffordd i gael hen ŵr Hafod Hwntw i olwg Gilhaul. Gelli gychwyn ddiwrnod yn gynt wrth fyned i ffair Rhos. Galw heibio i Hafod Hwntw wrth fyned. Bydd yr hen ŵr yn sicr o fyned i’r ffair. Ceisia ganddo ddyfod i’r golwg wrth ddychwelyd adref; a throwch i orphwyso i’r Cross Keys, a dyro iddo iugaid cynnes o gwrw wedi ei speisio yn bur neis cyn ei gymeryd i edrych y ffarm. Gelli ddangos iddo fod yr adeiladau oll yn bur gryno ac yn bur gyfleus, a bod y mynydd defaid yn bur helaeth. Ni bydd dim eisiau crybwyll wrtho y nifer o ddefaid sydd gennym ni yno yn awr, na dim am fethiant ein cynnyg am y Southdowns. Cymer et ar draws y ddwy weirglodd, a’r ddôl wenith y tuhwnt iddynt. Ni byddai waeth heb ei gymeryd dros Rhos y Waun; ond gellil grybwyll wrtho fod y ffriddoedd oll yn rhai sychion a gwelltog, a da ragorol i wartheg hespion a merlod. Astudia ryw gynllun i gael yr hen ŵr drosodd i olwg y ffarm.”

Galwodd y baili heibio i Hafod Hwntw fel yr addysgwyd ef: a thrwy lawer o gymell ac o daerni a son gryn dipyn am degwch haelfrydig Lord Protection, a gwerth ffafraeth teulu y Green, a chroesawder y gymdogaeth, ac eangder y ffarm; a thrwy i rai o ferched Hafod Hwntw gefnogi ei a raeth, llwyddodd y baili i gael gan yr hen ŵr ddyfod gydag ef heibio i Gilhaul wrth ddychwelyd adref o’r ffair. Ond erbyn eu dyfod at y Cross Keys nid oedd ar yr hen ŵr eisiau na bwyd na diod. Nid oedd ond newydd orffen bwyta y bara a’r cig oedd ganddo yn ei boced, ac yr oedd newydd drachtio yn o ddwfn o ffynnon y Graigwen wrth ddyfod heibio. Rhoddodd gwart o flawd ceirch a dwfr i’w ferlyn, a gyrrodd i fynu ar unwaith tua Chilhaul; a thaflodd ei olwg o’i amgylch ryw ddwywaith wrth yrru i fynu tua’r tŷ, ac aeth yn bur syth drwy y buarth, ac i fyny tua’r ffriddoedd, a gofynnodd ryw ddau neu dri o gwestiynau i’r baili yn nghylch y rhent a’r trethoedd, a’r tenant diweddaf a’r un a fuasai yno o’i flaen. Dywedodd y baili y cai yr holl hanes i gyd gan deulu y steward, ac erfyniodd yn daer iawn arno alw yn y Green.

“Na,” meddai’r hen ddyn, “byddai yn beth hollol ddiles i mi fyned cyn belled a’r Green. Yr wyf yn gwybod yn barod gymaint ag sydd arnaf eisieu wybod am hanes ac am ragorion Cilhaul. Y mae yn ddrwg genyf i mi deithio cyn belled o’m ffordd wrth ddyfod adref o’r ffair. Yr wyf am frysio yn awr heb golli dim amser pellach i mi gael cyrraedd adref cyn nos.”

Dywedodd y baili wrtho y byddai yn hollol anmhosibl iddo gyrraedd adref erbyn nos; a thaer erfyniodd arno drachefn a thrachefn i alw yn y Green i gael ychydig luniaeth a feed i’w ferlyn; a lletya y noson honno yn y Green neu yn Nhgilhaul; ac y cai gychwyn adref gyda’r wawr bore drannoeth.

“Na thanci,” meddai’r hen ŵr, “mi âf fi adref yn burion heno. Gallaf gyrraedd adref dros y mynyddau yn lled agos erbyn nos. Bydd tipyn o leuad yn y dechreunos. Yr wyf fi mor gyfarwydd â llwybrau y mynyddoedd ag ydwyf â ffyrdd y gwaelodion. Y mae aderyn yn y llaw yn Hafod Hwntw yn werth dau yn y llwyn yn Nghilhaul.” Ac ar hynny, trodd yr hen ŵr ben ei ferlyn broc caled tua’i gartref, a gyrrodd yn bur fywiog dros y ffriddoedd, ac ni welodd y baili mo’i wyneb caled sych garw byth mwyach.

Ymboenodd y steward a’i deulu lawer am i’r hen ŵr ddychwelyd felly heb iddynt gael ei weled; a danghosent eu nwydau drwg tuag at bawb o’u deutu mewn edrychiad, gair, a gweithred. Yr oedd colli pob gobaith am bridden yr hen guineas, ar ol unwaith glywed cymaint am dani, yn eu gwneyd yn beevish ofnadwy, ac yr oeddynt dros bob mesur o wenwynllyd wrth y baili. Aethant o’r diwedd mor gas wrtho nes y gwylltiodd yntau i’w natur ddrwg, a dyna fe â’i galon yn berwi, a’i wefusau mawrion yn crynnu, yn torri allan i ddweyd yn wyneb y steward a’i deulu,—

“Ni safaf fi mo hyn ddim yn hwy. Yr wyf fi wedi gwneyd fy ngoreu i chwi bob amser, a gwyddoch chwithau hynny yn bur dda. Y mae Cilhaul wedi costio i mi lawer iawn o ludded ac o ofid. Nid fy nghynllun i oedd cyrchu yr Herefords a’r Southdowns yma. Cyflawnais eich eirchion yn mhob dim yn y dull llawnaf a manylaf. Aethum yr holl ffordd i Hafod Hwntw fel yr oeddych wedi ceisio gennyf. Collais fy ffordd yn y niwl, a bu agos iawn i mi golli fy mywyd ar y mynydd wrth groesi Rhyd du Cors Rheidol. Yr oedd llif y nant yn bur wyllt, ac yn bur ddwfn, ar ol y gwlawogydd. Llwyddais i gael yr hen ddyn i lawr yn ol eich dymuniad. Gwyddech yn burion yr amser yr oeddym i fod wrth y Cross Keys, a buasai yn hawdd iawn i chwi neu un o’ch meibion fod yno, neu wrth Gilhaul, i gyfarfod yr hen ŵr. Buasai yn rhyw foddhad i chwi eich bod wedi cael ei weled, er na buasai hynny o ddim lles yn y byd. Yr oedd yn ddigon eglur o’r foment gyntaf y daeth yr hen ŵr i olwg Cilhaul na wnai ymdroi dim yn ei gylch, ond y dychwelai yn unionsyth ar draws y bryniau cyn gynted ag y medrai tua’i hen Hafod Hwntw. Y mae yr hen ŵr, er ei fod yn gwisgo gwasgod gron, a byclau dyddiau Bess, yn bur graff a hirben, ac yr wyf yn gwbl sicr na buasai dau ddwsin o stewardiaid byth yn ei droi hanner chwarter modfedd o’i lwybr; a byddai yn hollol wallgofrwydd i ddisgwyl i un dyn yn ei bwyll, os bydd ganddo hanner gronyn o’r synwyr mwyaf cyffredin, gymeryd Cilhaul dan ei beichiau presennol.”

“Wel, beth wnawn ni?” meddai’r steward, dan ollwng hir ochenaid allan o waelod ei galon. “Yr ydym ni wedi gwneyd cam trwm cas brwnt iawn â’r Carefuls. Yr wyf yn clywed eu bod hwy yn awr wedi prynnu section hyfryd o dir bras ffrwythlawn ar lan y Missouri.”

“Ydynt, syr, y maent yn gwneyd yn rhagorol yno. Y mae ganddynt ffarm fawr ardderchog heb ddim beichiau i’w llwytho. Y maent yn cael yno y cnydau mwyaf godidog, heb brynnu na guano na dim arall, ac y maent yn awr ar brynnu y sections cysylltiedig â hi. Y maent i’w cael, a theitl y llywodraeth iddynt, am lai na chwe swllt y cyfair; ac y mae un o railffyrdd mawrion y gorllewin yn rhedeg yn awr drwy gwrr isaf eu tiroedd.’

“Yr wyf yn ofni felly nad oes dim gobaith i ni eu cael hwy byth yn ol, ac y bydd Cilhaul ar ein llaw am flwyddyn eto.”

“Bydd, syr, bydd Cilhaul ar eich llaw hyd ddydd brawd, os na wnewch chwi gynnyg rhyw gyfnewidiad.”

“Pa fodd y gallaf fi gynnyg unrhyw gyfnewidiad yn awr ar ol i ni ymddwyn fel y gwnaethom tuag at y Carefuls? Pa fodd byth y wynebaf yr Audit nesaf? Pa fodd y meiddiaf ddangos fy wyneb i’m lord? Pa beth a wnaf, neu a ddywedaf, nis gwn yn y byd. Yn boeth ulw y bo yr hen Gilhaul yna. Pe medrid ei gwthio i rywle o’r golwg, byddai yn drugaredd i mi. Gwynfyd pe ceid rhyw wrach i’w rheibio.”

“Yr ydych chwi wedi gwneyd hynny yn barod,” ebe y baili. “Byddai yn eithaf peth i chwi gyflogi llong fawr fawr i’w chludo draw ymhell i’r gorllewin dros y tonnau ar ol y Carefuls. Dichon y gwnaent hwy rywbeth o honi. Neu pe digwyddai i’r llong a hithau suddo ar fanciau tywod Newfoundland, byddai hynny yn well fyth. Yr wyf yn gwybod y byddai yn llawer gwell i chwi ac i’r meistr tir ei hanfon felly dros y môr nag i chwi ei chadw ymlaen ar eich llaw i’w thrin. Costiai ei phacio i fyny dipyn o drafferth i chwi, a byddai ei mudiad ymaith yn dipyn bach o golled i’r Frenhines ac i’r Eglwys, i’r person ac i’r cardotyn; ond byddai yn fendith fawr i chwi, os nad ellwch ei gosod.”

“O dangio di, baili, y rascal dwbl pan; paid di a cracio dy jokes creulawn fel yna i’m diraddio i.”

“Wel, syr, mi beidiaf fi yn rhwydd iawn; ond yr ydych chwi a’ch teulu yn ddiweddar wedi cracio pethau bryntach na jokes yn fy erbyn i, ac ni chymeraf fi ddim yn chwaneg o’r pethau hynny oddiwrth neb o honoch. Y mae yn gwaedu fy nghalon y funud yma i gofio am y triniaethau creulawn a gwarthus a gafodd y Carefuls pan dan eich stewardiaeth chwi. Yr wyf fi wedi gwneyd i fyny fy meddwl i fyned ar eu hol i America y gwanwyn nesaf. Y mae yn ofid mawr gennyf yn awr na buaswn wedi myned gyda hwy. Cymydogion teg, caredig, a boneddigaidd oeddynt. Os oeddynt yn cwyno weithiau yn erbyn gorthrymder, cawsant ddigon o achos i gwyno; ac heblaw bod yn foddlon i bawb gael eu hawliau gwladol a chrefyddol, yr oeddynt yn bur barod eu cymwynasau a’u helusenau. Yr wyf yn benderfynol i fyned ar eu hol yn ddioed. Y mae lle ardderchog yn America i failïaid ffermydd ymdrechgar a medrus. Gellwch chwilio am baili newydd yn fy lle pan y mynnoch; ac yr wyf yn gobeithio y caiff hwnnw fwy o gysur, a gwell lwc, yn Nghilhaul nag a gefais i.”

Dyna ychydig o hanes helyntion diweddar Cilhaul Uchaf. Ni cheisiaf ar hyn o bryd mo’u holrhain ddim pellach. Yr oedd helbul a gofidiau y steward wrth fethu gosod Cilhaul, a rhai ffermydd eraill a ddaethant ar ei law, yn ei boeni ddydd a nos. Yr oedd yr adgofion o’i ymddygiad at rai o’r tenantiaid ffyddlonaf i’w meistr a welwyd erioed yn llosgi ddyfnach ddyfnach yn ei fynwes. Yr oedd ei ddanodion ef a’i deulu i’w gilydd o’u barbareidddra dirmygus tuag at y Carefuls yn ennyn yn bur fynych fwy na llonaid y tŷ o fflamau annedwyddwch a chynnen. Yr oedd croes-esboniadau y steward wrth ei lord yn ddamniol i’w gymeriad fel goruchwyliwr. Glŷn yr anfri wrth ei enw tra bydd byw, a glŷn wrth ei goffadwriaeth am oesoedd ar ol iddo farw. Byddai darlunio y cynhennau fu yn ei deulu, a danodion ei gydoruchwylwyr, a’r modd y bu rhyngddo â’i arglwydd, a’r sport fyddai rhai o’i hen gyfeillion yn wneyd o hono o gylch bar y Cross Keys, yn bethau rhy anhawdd i mi eu llawn ddarlunio. Y mae y rhan fwyaf o’r pethau hynny wedi cael eu cadw yn secrets. Gellir dychmygu, a dychmygu yn bur gywir, ond nid doeth adrodd dim heb fod sail eglur a diamheuol iddo.

Yr wyf yn clywed fod fy nghefnder awenyddol Twm Edward o’r Nant wedi rhoddi ei ffarm i fyny, a’i fod a’i fryd ar ymfudo i ryw Canterbury Settlement yn ynysoedd y de; a’i fod wedi parotoi hanesion manylaidd am stewardiaeth y Green, a thenantiaeth y cwr uchaf o estate Lord Protection, i’w cyhoeddi yn llyfr go fawr cyn iddo ymadael o’r wlad. Y mae Twm wedi cael y cyfleusderau mwyaf manteisiol i sylwi a deall fel y mae pethau wedi myned yn mlaen er’s llawer blwyddyn yn y Green, ac yn yr Hall, ac ar hyd yr holl estate; ac yr wyf yn sicr y bydd hanesion ac adroddiadau Twm yn rhai cryfion ac addysgiadol, yn enwedig ei adroddiadau o gyfrwys ddichellion y steward a’i deulu i lunio a derbyn a thraethu clep ac athrod, ac i chwythu cynnen rhwng cymydogion, er mwyn i’r steward drwy hynny gael achlysur i feirniadu yn yr Hall, yn nghlyw y lord a’i gymdeithion, ar dymherau y tenantiaid, a chael achlysur hefyd i ddifrïo a gwthio ymaith y tenant ymdrechgar fydd yn rhy onest i werthu ei gydwybod am bris dirmygol tylwyth y steward. Bydd llyfr Twm o hanes teulu y steward yn werth ei gael, a gwnaiff les.

Yr wyf finnau yn bwriadu, pan gaf hamdden i grynhoi at eu gilydd, gyda thipyn o ofal a manylder, fy adgofion o hanes Nant y Dderwen, a’r Clawdd Melyn, a’r Caeau Llwydion, a’r Ffos Fach, a’r Bryn Tew, a Than yr Wtra, a’r Berth Lwyd, a’r Gro Arw, a Glyn Carfan, a’r Coed Crin, a Llwyn y Pryfaid, a Maes y Brwyn, a’r Gelli Lwyd, a Bryndu, a’r Bryniau Mawr, a Thal y Bont, a’r Tŷ Uchel, a Garth y Drain, a Math y Dafarn; ac amryw o ffermydd eraill oddeutu y gymydogaeth. Yn y rhan fwyaf o’r mannau a nodwyd, cyflawnwyd anghyfiawnderau o’r fath greulonaf tuag at hen denantiaid o’r cymeriad mwyaf ymdrechgar a ffyddlon; a dangoswyd at rai o honynt, yn enwedig tuag at weddwon a phlant amddifaid, fath o flagardiaeth ag y buasai yn gywilydd gan grach-stewardiaid Novogorod feddwl am ei gyflawni.

Yr wyf fi yn gwresog garu hen wlad fy ngenedigaeth, a gwn fod y rhan fwyaf o’m cymydogion yn hoff iawn fel finnau o’u gwlad, er tloted ydyw, a’u bod wedi gwneuthur ymdrechion anghredadwy i geisio byw ynddi: ond pan feddyliwyf am yr addewidion anogaethol o dâl sicr am eu llafur i amaethwyr a llafurwyr diwyd a gofalus sy’n cael eu dal allan iddynt gan ddyffrynoedd llydain breision cyfoethog taleithiau gorllewin America, a holl wastadedd y ddwy Canada, a phorfeydd gwelltog anherfynol Australasia, a gwastad-diroedd iachus rhai o wledydd hyfryd Asia Leiaf a gororau Affrica, a deniadau y Canterbury Settlements, a’r Sydney Herbert Settlements, a hyd yn nod rai o dywysogaethau yr Ynys Werdd yn ein hymyl;—pan feddyliwyf, meddaf, am y deniadau a’r gwahoddiadau taerion cryfion ac anogaethol sy’n cyrraedd y ffarmwyr a’r gweithwyr o’r holl fannau hyn; a phan gofiwyf am luosogiad cyflym y cyfleusderau i deithio ar bob llaw, ac am y niferoedd sydd wedi ymfudo yn barod o’n gwlad fach dlawd lethedig; a phan feddyliwyf am y dull barbaraidd yr ydys yn baeddu, ac yn beichio, ac yn athrodi, ac yn hustyngio, ac yn diraddio, ac yn mathru dan draed y ffarmwyr mwyaf diwyd ac ymdrechgar a welodd ein hen gymoedd erioed,—yr wyf yn ofni yn wir yr ymfuda pob rhinwedd a diwydrwydd ymaith ym mhell oddiyma, a hynny yn bur fuan, os na bydd i arglwyddi tiroedd a’u crach-stewardiaid, ynghyda’u ceraint eglwysig, ymddwyn yn decach ac yn foneddigeiddiach tuag at denantiaid cydwybodol a llafurus

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings