← Table of contents
Gwaith Samuel Roberts

CANIADAU BYRION.

Reading edition

Bwthyn ym Maldwyn
Bwthyn ym Maldwyn

Y TEULU DEDWYDD.

Wrth ddringo bryn ar fore teg, Wrth hedeg o’m golygon, Gan syllu ar afonig hardd, A gardd, a dolydd gwyrddion; Mewn hyfryd fan ar ael y bryn Mi welwn fwthyn bychan, A’i furiau yn galchedig wyn Bob mymryn, mewn ac allan.

Canghennau tewfrig gwinwydd îr Addurnant fur y talcen, A than y tô yn ddof a gwâr Y trydar y golomen; O flaen y drws, o fewn yr ardd, Tardd lili a briallu; Ac O mor hyfryd ar y ffridd Mae blodau’r dydd yn tyfu.

Wrth glawdd yr ardd, yn ngwyneb haul, Ac hyd y dail, mae’r gwenyn Yn diwyd gasglu mêl bob awr I’w diliau cyn daw’r dryc-hin; Ar bwys y ty, mewn diogel bant, Mae lle i’r plant i chwareu; Ac yno’n fwyn, ar fin y nant, Y trefnant eu teganau.

O fewn y ty mae’r dodrefn oll, Heb goll, yn lân a threfnus; A lle i eistedd wrth y tân Ar aelwyd lân gysurus; Y Teulu Dedwydd yno sy Yn byw yn gu ac anwyl; A phob un hefyd sydd o hyd Yn ddiwyd wrth ei orchwyl.

Ychwaith ni chlywir yn eu plith Neb byth yn trin na grwgnach, Ond pawb yn gwneyd eu goraf i Felysu y gyfeillach; Mae golwg iachus, liwus, lon, A thirion ar bob wyneb; A than bob bron y gorffwys hedd, Tagnefedd, a sirioldeb.

Pan ddel yr hwyr, ac iddynt gwrdd, Oddeutu’r bwrdd eisteddant; Ac am y bwyd, o hyd nes daw, Yn ddistaw y disgwyliant; Pan ddyd y fam y bwyd gerbron Gwnant gyson geisio bendith; Ac wedi ’n, pan eu porthi gânt, Diolchant yn ddiragrith.

Ar air y tad, â siriol wên, A’r mab i ddarllen pennod; Ac yna oll, mewn pwysig fodd, Codant i adrodd adnod; Yr emyn hwyrol yn y fan Roir allan gan yr i’angaf, Ac unant oll i seinio mawl Cysonawl i’r Goruchaf.

Y tad a dd’wêd ddwys air mewn pryd Am bethau byd tragwyddol; Y fam rydd ei Hamen, a’r plant Wrandawant yn ddifrifol; Wrth orsedd gras, o flaen yr Ior, Y bychan gôr gydblygant; A’u holl achosion, o bob rhyw, I ofal Duw gyflwynant.

Am ras a hedd, a nawdd y Nef, Y codant lef ddiffuant; A Duw a ystyr yn gu-fwyn Eu cwyn a’u holl ddymuniant; Ac O! na fedrwn adrodd fel Mae’r tawel Deulu Dedwydd, Mewn gwylaidd barch, ond nid yn brudd, Yn cadw dydd yr Arglwydd.

Yn fore iawn, mewn nefol hwyl I gadw’r wyl cyfodant; Ac wedi ceisio Duw a’i wedd, I’w dŷ mewn hedd cydgerddant; Fe’u gwelir gyda’r fintai gu Sy’n cyrchu i’r addoliad; Ac yn eu côr, ym mhabell Ion, Yn gyson ceir hwy’n wastad.

Ceir clywed mwynber leisiau’r plant Mewn moliant yn cyfodi, A’u gweld yn ddifrif-ddwys o hyd, Ac astud, wrth addoli; Ni wâg ymrodiant i un man I hepian na gloddesta; Ond bydd eu calon gyda gwaith A chyfraith y Gorucha’.

Pob un, â’i Feibl yn ei law, I’r ysgol ddaw’n amserol; Ac yn eu cylch fe’u ceir bob pryd Yn ddiwyd a defnyddiol; Pan ddeuant adre’r nos yn nghyd I gyd, a’r drws yn nghauad, Dechreuant ddweyd yn bwysig rydd Am waith y dydd, a’u profiad.

Mor fwyn eu cân! mor ddwys pob gair, Ac O mor daer eu gweddi! A Duw yn siriol wenu ar Y duwiol hawddgar deulu; Gwir nad oes ganddynt ddodrefn aur, Na disglaer lestri arian, Na llawrlen ddrudfawr yn y ty, Na gwely-lenni sidan.

Ni feddant seigiau mawr eu rhin, Na melus win na moethau, Na thuedd byth i flysio’n ffol Frenhinol arlwyadau; Ond mae rhinweddol win a llaeth Yr iechydwriaeth ganddynt; A Christ yn Frawd, a Duw yn Dad A thirion Geidwad iddynt.

Fe’u ceidw’n ddiogel rhag pob braw, Ac yn Ei law fe’u harwain, Nes dwyn pob un i ben ei daith Trwy hirfaith dir wylofain; Pob un a gyrraedd yn ei dro Hyfrydawl fro paradwys; Ac yno’n dawel berffaith rydd Y cânt dragwyddol orffwys.

MARWOLAETH Y CRISTION.

Gristion hawddgar! Daeth yr adeg It’ ehedeg at dy Dad; Gad dy lesgedd, hwylia’th edyn, Cyfod, cychwyn tua’th wlad; Sych dy ddagrau, dechreu ganu, Darfu’th bechu, darfu’th boen; Ti gei bellach dawel orffwys Ym mharadwys gyda’r Oen.

Er fod afon angau’n donnog, A llen niwlog dros y glyn, Gwel dy Briod cu yn dyfod I’th gyfarfod y pryd hyn; Dacw’r gelyn wrth ei gadwyn, Heb ei golyn, dan ei glwy’; Dacw uffern wedi ’i maeddu:- Gristion! pam yr ofni mwy?

Yn y dyffryn, er mor dywyll, Gwelaf ganwyll ddisglaer draw, Wedi ’i chynneu i’th oleuo, Rhag it’ lithro ar un law; Mae dy Iesu wedi blaenu, Wedi torri grym y donn; Pam yr ofni groesi’r dyffryn? Pam mae dychryn dan dy fron?

Eilia’th gân, mae’r nos yn cilio, Gwel, mae gwawl yn hulio’r glyn: Edrych trwy y niwlen deneu, Gwel drigfannau Seion fryn: Gwel, mae hyfryd wên dragwyddol, Heulwen nefol ar y wlad; Gwel mor ddisglaer deg danbeidiol Yw brenhinol lys dy Dad.

Gwel y dirif seirian berlau Wisgant furiau’r nefol gaer; Gwel ei huchel byrth disgleirdeg, A’i llydain dêg heolydd aur; Gwel yr afon bur redegog, Gwel y deiliog ffrwythlawn bren; Gwel y llwybrau a’r trigfannau Sydd i’r seintiau uwch y nen.

Gwel y dedwydd brynedigion Yn eu gynau gwynion draw, Wedi gwisgo eu coronau, A’u telynau yn eu llaw; Yuo’n gorffwys, gyda’u gilydd, Mewn llawenydd pur dilyth, Heb na loes, na chroes, na phechod, Mwyach i’w cyfarfod byth.

Gwel y gosgordd-lu yn cychwyn I’th ymofyn idd eu mysg; Gwel dy Brynwr, mewn gwên siriol, Yn ei hardd gyfryngol wisg; Clyw, mae’r clychau oll yn canu, I’th groesawu tua thref; Clyw bereiddlawn seingar donau Aur delynau côr y nef.

Gwel dy gerbyd wrth yr afon, Gwel dy goron,—gad dy gledd; Cymer bellach dawel feddiant O ogoniant gwlad yr hedd, Ffarwel iti, collaf bellach Dy gyfeillach a dy wedd, Hyd nes cawn gyfarfod eto Yn y fro tu draw i’r bedd.

Y LILI GWYWEDIG.

Galar-gân Mam ar Farwolaeth Maban Mynwesol.

Caed Lili têg, mewn hyfryd fan, Ar gorsen wan yn tyfu; Ei hawddgar liw, a’i gywrain lun, Wnai i bob un ei garu; Ei berchen o anwyldeb âi, A siriol syllai arno, Mewn gobaith hoff o’i gadw’n îr Am dymor hir heb wywo.

Ond ar ddiwrnod tywyll du, Y gobaith cu ddiflannodd; Daeth awel oer ’nol heulwen haf, A’r Lili braf a wywodd; Mae’n awr yn gorwedd yn y llwch, Heb degwch yn wywedig; A’i berchen deimla dan ei bron Ei chalon yn glwyfedig.

Ochenaid ddwys o’i mynwes wan, Ac egwan lef sy’n codi,— “A raid im’ golli’r olwg ar Fy hawddgar wiwber Lili? Flodeuyn hardd! dy golli raid, Er dibaid dywallt dagrau; Llwyr ddiflanedig ’nawr yw drych Dy unwaith harddwych liwiau.

“Dy addurnedig wisgoedd braf, Eu gweled ni chaf mwyach; Wrth syllu ar dy le, nid wyf Ond gwneyd y clwyf yn ddyfnach.” Ar hyn, pan ydoedd natur wan O dan y groes yn suddo, I arllwys balm i’r galon brudd Daeth gwiw Ddiddanydd heibio.

Yn dirion (nid i beri braw) Ei ddeheu-law estynnai; Cyd-deimlo wnai wrth wrando’i chŵyn, Ac mewn iaith fwyn dywedai, “Na wyla mwy,—dy Lili hardd Sy’n awr yng ngardd paradwys, Mewn tawel gynnes nefol fro Yn ail-flodeuo’n wiwlwys.

“Ei nôdd, ei ddail, ei arogl pêr, Ei liwiau têr a hawddgar, Rhagorach fyrdd o weithiau ynt Nag oeddynt ar y ddaear. Ei weled gei ar fyr o dro Yn gwisgo harddwch nefol: I’r ddedwydd wlad dy gyrchu wnaf, Lle t’wyna haf tragwyddol.”

CAN Y NEFOEDD.

Fy enaid blinedig! cwyd d’edyn yn awr, Ehed trwy’r wybrennau uwch gofid y llawr, I glywed nefolion yn seinio’r trwy’r nen Fawl ganiad i’r Iesu, dy Briod a’th Ben.

Mor hardd Ei frenhinwisg, mor uchel Ei sedd, Mor ddisglaer Ei goron, mor siriol Ei wedd; Aur-seren awdurdod sy’n awr ar y fron Fu gynt yn llif-waedu o glwy’r waew-ffon.

Angylaidd gantorion gydunant mewn cân A seintiau fil miloedd, a’u gwisgoedd yn lân; A broydd a bryniau tragwyddol y nef Trwy’r dedwydd ororau adseiniant eu llef.

Y llu archangylaidd ddechreuant y gainc, Gan barchus gydblygu o amgylch Ei fainc: Y saint a’u coronau wnant balmant i’w draed, Gan felus gydganu am rinwedd ei waed.

Pan daniodd Ei fynwes, pan gododd mewn brys, Gan adael Ei orsedd, a’i goron, a’i lys, A hedeg heb oedi o fynwes Ei Dad, Ar edyn trugaredd, at ddyn yn Ei waed;

Pan welwyd E’n Faban mewn gwael egwan gnawd, Etifedd y nefoedd o’i wirfodd yn dlawd, Angylion a seintiau a floeddient yng nghyd, “Gogoniant trwy’r nefoedd, Tangnefedd trwy’r byd.”

Pan rodiai o amgylch, gan wneuthur lleshad I gloffion, a deillion, a chleifion yn rhad, Gan alw’r blinderog, yn serchog a llon, I orffwys yn dawel eu pwys ar Ei fron,—

Pan godai yn erbyn pyrth uffern Ei gledd, Gan siglo sylfeini hen garchar y bedd,— Dyrchafu yn hyfryd bêr-seiniawl wnai’r gân, A bywiol orfoledd wnai’r nefoedd yn dân.

Ond sydyn!—pan ydoedd pob telyn mewn hwyl, A’r udgyrn yn seinio fel ar uchel wyl,— Wrth daro’r nôd uchaf cydsyniai’r dorf hardd Ei weled E’n chwysu mewn ing yn yr ardd.

Pan welwyd E’n gwaedu dan hoelion ar bren, Pan wanwyd Ei fynwes, pan glwyfwyd Ei ben, Pan yfodd E’r cwpan, pan gollodd fwynhad Diddanol gysuron gwedd wyneb Ei Dad;

Pan gododd Cyfiawnder i’w erbyn Ei gledd, Pan welwyd E’n gorwedd yng ngharchar y bedd, Dyrysodd telynau cantorion y nef, Ymlaesodd pob aden, distawodd pob llef.

Ar unwaith ymdaenodd tywyllwch fel llen Dros harddwych drigfauau dedwyddawl y nen; Cydwywodd y blodau, dadhwyliodd pob tant, Llesgaodd pob seraff—pob angel—pob sant.

Ond bore’r adgodiad, ar doriad y dydd, Pan neidiodd y Cadarn o’i gadwyn yn rhydd, Gan ymdaith o Edom yn amlder ei rym, Mewn harddwisg borfforaidd, a’i gleddyf yn llym;

Pan gododd hardd-faner trugaredd a hedd, Ac yn Ei law waedlyd agoriad y bedd, Gan floeddio’n fuddugol, “Enillais y dydd— “Gorchfygais bob gelyn—daw’r caethion yn rhydd,”—

Mil myrdd o gantorion, yn gydsain eu llef, Ail-seinient yr Anthem, hwyl lawen trwy’r nef; Gan floeddio caniadau, mewn tonau mor bêr, Nes siglo y bydoedd gan adsain y ser.

Angylaidd osgorddion ehedent mewn brys I dywys eu Brenin i orsedd Ei lys; Ar balmant o berlau olwynai i’r nen, A’r seirian byrth oesawl ddyrchafent eu pen.

’Nol disgyn o’i gerbyd, ac esgyn Ei sedd, Ei euraidd deyrnwialen estynnai mewn hedd, Gan ddwyn agoriadau llywodraeth Ei Dad, Ac anfon i ddynion Ei roddion yn rhad.

Rho heibio ’nawr, f’awen, cyn gorffen dy gân, Rhag boddi ar unwaith mewn syndod yn lân; Nid da cynnyg nofio—’rwyt eto’n rhy wan— Mewn môr o ryfeddod, heb waelod na glan.

I erfyn maddeuant, plyg ’nawr wrth Ei draed, Ymorffwys am fywyd ar rinwedd Ei waed; Cei ddianc ar fyrder o’th garchar o gnawd, I orffwys ym mynwes dy fwyn hynaf Frawd.

Ei wyneb cu hardd-deg gei weled heb len; Ac yna, dan ganu, coroni Ei ben; Pan welir y ddaear yn wenfflam o dân, Mawr fydd dy orfoledd, a melus dy gân.

AR FARWOLAETH MABAN.

Daeth yma i’r byd i weld ein gwae, Lle mae gorthrymder garw; Ond trodd ei egwein lygaid draw, Gan godi ’i law a marw.

Er dod am dro i’n daear ni I brofi’r cwpan chwerw; Ni fynnai aros is y nen, Trodd draw ei ben i farw.

Dros ennyd ferr fe rodd ei glust I wrando’n trist riddfannau; Ond buan, buan, blino wnaeth, A hedodd ymaith adre’.

Ni chawn ei weled yma mwy Dan unrhyw glwy’n galaru; Mae wrth ei fodd ar Seion fryn, A’i dannau’n dynn yn canu,

Ni welir deigryn ar ei rudd, Na’i wedd yn brudd wylofus; Ni chlywir mwy o’i enau ef Un egwan lef gwynfannus.

Ni chaiff y fam byth, mae’n ddilys, Waith sychu ’i chwys a’i ddagrau, Na chwaith ei gynnal, pan yn wan, I gwynfan yn ei breichiau.

Ni rydd un gelyn iddo glwy, Nis gellir mwy ei faglu; Ni welir ef yn dewis rhan Gyda’r annuwiol deulu.

Ni chaiff y tad na’r fam byth mwy Boen trwy ei weld yn pechu: Nid ofnant iddo yn ei oes Ddwyn croes ar achos Iesu.

Fe darddodd ffynnon ar y bryn I’w gannu’n wyn, a chymhwys I lanw lle yn mhlith y llu Sy’n canu ym mharadwys.

Diangodd draw i wlad yr hedd O gyrraedd pob rhyw ddrygfyd, Ac uno wnaeth â’r nefol lu I ganu fry mewn gwynfyd.

Mewn teulu duwiol yn y byd, Tra hyfryd y gyfeillach; Ond fry ymhlith y nefol hil Y bydd yn fil melusach.

Heb unrhyw boen o dan y fron, Mae ’nawr yn llon a dedwydd: A’r pur orfoledd yno sy A bery yn dragywydd.

Er rhoi ei gorff yng ngwaelod bedd I orwedd a malurio, Daw bore hyfryd yn y man Y cwyd i’r lan oddiyno.

Cawn gydgyfarfod fry mewn hedd, Tudraw i’r bedd yn dawel; Ac uno i ganu yn ddilyth, Heb achos byth ymadael.

Y CRISTION YN HWYLIO I FÔR GWYNFYD.

Fel morwr cyfarwydd wrth ddedwydd fordwyaw, Yn troi yn dra medrus ei lyw â’i ddeheulaw, Gan ganu wrth ledu ei hwyliau claerwynion I farchog y cefnllif o flaen yr awelon,— Mae’r Cristion yn gadael anialdir marwoldeb, Gan hwylio yn dawel i fôr bythol burdeb. Pan ddel y gorchymyn mae’n lledu ei hwyliau, Heb ofni’r Iorddonen, nac ymchwydd ei thonnau; Gan wenu heb ddychryn, wrth gychwyn, mae’n canu,— “O’m golwg yn gyflym mae’r byd yn diflannu, Diangaf yn fuan o gyrraedd gofidiau, Tawelu mae’r gwyntoedd, llonyddu mae’r tonnau, Mae’r heulwen yn gwenu, a’r wybren yn siriol, Caf nofio mewn moroedd o wynfyd tragwyddol.”

CWYN A CHYSUR HENAINT.

Ymgiliodd y gaeaf, mae’r gwanwyn yn gwenu, Mae’r oenig yn neidio, a’r durtur yn canu; Mae’r coedydd, a’r dolydd, a’r gerddi’n blodeuo; A minnau gan nychdod a henaint yn gwywo. Mae f’einioes yn cilio, a’m dyddiau bron darfod, Caf fyned i orffwys yn fuan i’r beddrod.

Mae’r i’enctid o’m hamgylch yn heinyf a chryfion, Yn wridog eu gruddiau, yn llawen eu calon, Yn siriol gydrodio’n finteioedd diddanus, A minnau fy hunan yn llesg a methiannus. Mae f’einioes yn cilio, a’m dyddiau bron darfod, Caf fyned i orffwys yn fuan i’r beddrod.

Bu amser, ’rwy’n cofio, pan gynt ’roeddwn innau Mor heinyf, a bywiog, a gwridog a hwythau, A’m dwyfron yn llawen, a’m cân yn soniarus; Ond ciliodd fel cysgod, fy hafddydd diddanus. Mae f’einoes yn cilio, a’m dyddiau bron darfod, Caf fyned i orffwys yn fuan i’r beddrod.

Diangodd holl dirion gymdeithion fy mebyd, O gyrraedd marwoldeb, i dawel fro gwynfyd; A minnau, heb gymar, adawyd fy hunan. Mae’m calon, gan hiraeth, yn rhy lesg i gwynfan. Mae f’einioes yn cilio, a’m dyddiau bron darfod, Caf fyned i orffwys yn fuan i’r beddrod.

Mae ceidwad y babell gan wendid yn crynnu, A’r heinyf wyr cryfion yn awr yn cydgrymu; Swn isel, wrth falu, wna’r felin fethedig, Ychydig yw’r meini, ac oll yn sigledig. Mae f’einioes yn cilio, a’m dyddiau bron darfod, Caf fyned i orffwys yn fuan i’r beddrod.

Y gloewon ffenestri gan lenni dywyllwyd, A llydain byrth mwyniant gan henaint a gauwyd; Y cwsg a lwyr gilia wrth lais yr aderyn, A baich ar yr ysgwydd fydd ceiliog y rhedyn. Mae f’einioes yn cilio, a’m dyddiau bron darfod, Caf fyned i orffwys yn fuan i’r beddrod.

Holl ferched cerddoriaeth ar unwaith ostyngir, A phopeth, wrth araf ymlwybro, a ofn; Mae chwant wedi pallu, ’does dim rydd ddiddanwch, Diflannodd pob seren dan ddulen tywyllwch. Mae f’einioes yn cilio, a’m dyddiau bron darfod, Caf fyned i orffwys yn fuan i’r beddrod.

Y cawg aur a’r piser yn fuan a ddryllir, Y llinyn ariannaidd a’r olwyn a dorrir; Ychydig sy’n aros o flodau’r pren almon; Dadfeilio mae’r babell, llewygu mae’r galon. Mae f’einioes yn cilio, a’m dyddiau bron darfod, Caf fyned i orffwys yn fuan i’r beddnod.

Hosanna!—’Rwyn teimlo fy llesg gorff yn datod, Mae’n addfed o’r diwedd i fyned i’w feddrod; Caiff gysgu heb ddychryn, dros ronyn, yn dawel, Nes hyfryd ddihuno wrth floedd yr archangel. Ac yna, heb lygredd, caiff godi’n dra siriol, I ddedwydd deyrnasu mewn i’enctid tragwyddol.

Ar edyn angylaidd, heb lesgedd na methiant, Caf esgyn i dawel ororau gogoniant, I dderbyn y palmwydd, y delyn, a’r goron, A chlywed peroriaeth nefolaidd gantorion; Ac yna caf brofi’r gymdeithas a’r gwleddoedd Sy’n bythol goroni dedwyddwch y nefoedd.

“MAE NHAD WRTH Y LLYW.”

Draw, draw ar y cefnfor, ar noson ddu oer, ’Roedd cwch bach yn hwylio heb seren na lloer; A rhuad y tonnau, a’r gwyntoedd, a’r gwlaw, A lanwai fynwesau y morwyr o fraw.

Ond bachgen y cadben, yn llawen a llon, A dd’wedai dan wenu, heb ddychryn i’w fron,— “Er gwaethaf y tonnau awn adref yn fyw: Pa raid ini ofni?—Mae Nhad wrth y Llyw.”

O blentyn y nefoedd! Paham mae dy fron Mor ofnus wrth weled gwyllt ymchwydd y donn? Mae’r dyfnder du tywyll yn rhuo, gwir yw; Ond diogel yw’th fywyd—Mae’th Dad wrth y Llyw.

Daw’n fuan orfoledd diddiwedd i’th ran; Draw’n disgwyl mae’th geraint oddeutu y lan: Y disglaer lys acw, dy hoff gartref yw; Mae Canan yn ymyl, a’th Dad wrth y Llyw.

Cwyd bellach dy hwyliau, mae’r awel o’th du, ’Rwyt bron mynd i fynwes dy fwyn Brynwr cu; Mae’th angor yn ddiogel, a’th Gadben yn fyw, Mae’th gwch yn y porthladd, a’th Dad wrth y Llyw.

Y DDAU BLENTYN AMDDIFAD.

Pont Llanbrynmair
Pont Llanbrynmair

Fy ngherbyd safai, ar fy nhaith, Unwaith wrth westy bychan, Pan oedd gwên oleu’r heulwen glaer Yn euro caer y dreflan.

Wrth weled pawb o’m cylch â’u bryd Ar dawel gydnoswylio, Aethum i gladdfa oedd gerllaw I ddistaw ddwys fyfyrio.

Dan briddell lâs, y tlawd yn llon Ro’i hun i’w fron glwyfedig; Ond meini cerf o farmor trwch A guddient lwch pendefig.

Wrth fedd, dan gysgod ywen grin, Dau blentyn oedd yn wylo, Mewn ing a hiraeth ar y pridd, Lle’r oedd eu mam yn hunc.

Er fod y ddau mewn newyn mawr, Ar lawr ’roedd darn o fara; Edrychent arno weithiau’n syn, Er hyn ni wnaent ei fwyta.

“Fy anwyl blant! gwnewch ddweyd i mi Pam ’rych chwi mewn cyfyngder, Ac yn gwastraffu’r bwyd eich dau, A chwithau mewn fath brinder?”

Atebai’r bach, mewn gwylaidd dôn, A’i heilltion ddagrau’n llifo,— “Yn wir yr ym mewn eisiau llym, Heb ddim i’w ofer-dreulio.

“Troi’n eneth ddrwg mae Mair fy chwaer, ‘Rwy’n daer am iddi fwyta; Ni chafodd damaid heddyw’n wir, A dir, hi bia’r bara.”

“Nis bwytaf mwy,” atebai hi, “Nes bwyto Henri dipyn; Mi gefais i beth bara ddoe, Ond echdoe cadd ef fymryn.”

Ar hyn fe deimlwn dan fy mron Y galon lesg yn gwaedu; Eisteddais rhyngddynt ar y bedd I geisio’u hymgeleddu.

Yn dirion gwesgais ddwylaw’r ddau, Oedd fel y clai gan oerder; A’r bachgen llwydaidd ataf drodd, I adrodd eu cyfyngder.

“Ein ty oedd wrth y dderwen draw, Gerllaw y dolydd gwyrddion, Lle’r oeddym gynt yn chwareu o hyd Yn hyfryd a chariadlon.

“Un tro, pan oeddym oll yn llon, Daeth dynion creulon heibio, I fynd â’n tad i’r môr i ffwrdd; Ni chawn mwy gwrdd mohono.

“Ni wnaeth ein mam, byth ar ol hyn, Ond wylo’n syn a chwynfan, Gan ddistaw ddweyd, yn brudd ei gwedd, Yr â’r i’r bedd yn fuan.

“Un hwyr, pan ar ei gwely’n wan, A’i hegwan lais crynedig Galwodd ni’n dau, mewn tyner fodd, A d’wedodd yn garedig,—

“‘Fy anwyl blant! Na wylwch chwi, Gwnewch dyner garu’ch gilydd: Dichon daw’ch tad yn ol yn glau, I’ch gwneyd eich dau yn ddedwydd.

“‘Ond os na ddychwel byth eich tad, Cewch Dduw yn Geidwad tyner; Mae Ef i bob amddifad tlawd Yn Dad a Brawd bob amser.’

“Yna, ar ol ymdrechu’n gu I sychu’n dagrau chwerw, Cusanodd ni, wrth droi ’i phen draw, Gan godi ’i llaw a marw.

“Ein hanwyl fam ni chawn byth mwy I’n harwain trwy ofidiau; Ac ofni’r ym, mewn dirfawr fraw, Na ddaw ein tad byth adre’,

“Er wylo yma lawer dydd Mewn hiraeth prudd am dano, Ac edrych draw a welem neb Yn dod—yn debyg iddo;

“Er clywed fod y môr yn mhell, Tybiem mai gwell oedd myned,— Os gallem gyrraedd yno’n dau, Y caem yn glau ei weled.

“Dan wylo aethom, law yn llaw, Trwy wynt a gwlaw a lludded, Gan droi yn wylaidd i bob ty I holi’r ffordd wrth fyned.

“Gwnai rhai, dan wenu, ymaith droi, Heb roi i ni ddim cymorth; Och’neidiai’r lleill wrth wrando’n cwyn, Gan roddi’n fwyn in ymborth.

“Ond erbyn gweld y môr mawr draw, Gwnaeth dirfawr fraw ein llenwi; Ac ofni’r ydym fod ein tad Anwylfad wedi boddi.

“Ar fedd ein mam ’r ym ’nawr o hyd, Mewn ing a gofid chwerw, A hiraeth dwys am fod ein dau, Fel hithau, wedi marw.

“A wyddoch chwi ddim p’le mae’n byw Y Duw sy’n Dad amddifaid? Pe gallem ni ryw fodd Ei gael, Mac Ef yn hael wrth weiniaid.

“Dywedodd mam mai yn y nef Yr ydoedd Ef yn trigo:- A d’wedodd llawer wrthym ni, Heb os, ei bod hi yno.

“Ac os yw mam ’nawr yno’n byw, Hi dd’wed wrth Dduw am danom; A disgwyl ’r ym y llwydda hi Cyn hir i’w yrru atom.”

Gwnaeth hyn im’ hoff gofleidio’r ddau, A sychu ’u gruddiau llwydion, A dweyd,—“Fel mam, gofalaf fi I’ch ymgeleddu’n dirion.

“Na wylwch mwy! Dewch gyda mi, Rhof ichwi fwyd a dillad, A dysg, a thŷ, a modd i fyw, A chewch Dduw’n Dad a Cheidwad.

“Efe yn fwyn a’m gyrrodd i I ddweyd i chwi Ei ’wyllys: A diwedd pawb a’i carant Ef, Yw mynd i’r nef i orffwys.”

CYFARCHIAD AR WYL PRIODAS.

Tangnefedd a ffyniant, diddanwch a chariad, Fo rhwymyn a choren eich undeb anwylfad; Ymleded eich pabell dan wenau Rhagluniaeth, A’ch epil fo’n enwog dros lawer cenhedlaeth. Disgleiried eich rhinwedd. A gwneled yr Arglwydd Eich cylchoedd yn fendith, a’ch ceraint yn dedwydd: Estynned eich dyddiau i fod yn ddefnyddiol; Ei eglwys fo’ch cartref, Ei air fyddo’ch rheol. A rhodded Ei Ysbryd diddanol i’ch tywys Trwy dd’rysni yr anial i’w nefol baradwys.

DINYSTR BYDDIN SENNACHERIB.

[Cyf. o “The Destruction of Sennacherib” Byron].

O Fras fro Assyria, y gelyn, fel blaidd, Ymdorrai i’r gorlan er difa y praidd; A’i lengoedd mewn gwisgoedd o borffor ac aur, Wrth hulio glyn Salem, a’i lliwient yn glaer.

Eu harfau o hirbell a welid o’r bron Fel llewyrch ser fyrddiwn ar frig y werdd donn; A thrwst eu cerddediad a glywid o draw, Fel rhuad taranau trwy’r wybren gerllaw.

Eu chwifiawg fanerau, cyn machlud yr haul, A welid fel coedwig dan flodau a dail; Eu chwifiawg fanerau, ar doriad y wawr, Fel deiliach gwywedig, a hulient y llawr.

Daeth angel marwolaeth ar edyn y chwa, Gan danllyd anadlu i’w gwersyll ei bla, Nes gwneuthur pob calon, a llygad, a grudd, Mor oer ac mor farw a delw o bridd.

Y ffrom farch ddymchwelwyd.—Yn llydan ei ffroen, Mae’n gorwedd heb chwythu mwy falchder ei hoen, A’i ffun oer o’i amgylch fel tywyrch o waed: Llonyddodd ar unwaith garlamiad ei draed.

Ar oer-lawr mae’r marchog, a’r gwlith ar ei farf, A’r llaid ar ei harddwisg, a’r rhwd ar ei arf: Nid oes trwy y gwersyll na thinc picell fain, Na baner yn ysgwyd, nac udgorn rydd sain. Mae crochwaedd trwy Assur, daeth amser ei thâl, Mae’r delwau yn ddarnau trwy holl demlau Baal: Cynddaredd y gelyn, heb godi un cledd, Wrth olwg yr Arglwydd, ymdoddai i’r bedd.

GWEDDI PLENTYN.

Ni cheisiaf aur, na bri, na nerth, Na diwerth fwyniant bydol: Fy enaid gais ragorach rhan Na seirian rwysg brenhinol.

Nid moethau o ddanteithiol rin, Na gloew win puredig, Nac yd, na mêl, nac olew per, Na brasder lloi pasgedig.

Nid plethiad gwallt, na thegwch pryd, Na gwisg i gyd o sidan, Nac eang lys, a’i addurn claer O berlau, aur, neu arian.

Ond dwyfol werthfawrocach rodd, Mewn taerfodd, wy’n ei cheisio: Ac O fy Nuw! erglyw fy nghri, A dyro imi honno.

Fel arwydd hoff o’th gariad hael, Rho imi gael Doethineb: Nid oes ond hon a ddwg i’m rhan Ddedwyddawl anfarwoldeb.

Dysg fi yn nechre f’einioes frau I rodio llwybrau’r bywyd; A chadw’th air,—trwy fyw yn ol Ei nefol gyfarwyddyd.

Fel ufudd blentyn, boed i mi Byth wneyd dy dŷ yn gartre, Fel caffwyf brofiad melus iawn O’i radlawn arlwyadau.

Na ad im’ ffol ymlygru byth, Trwy fynd i blith rhagrithwyr; Na rhedeg chwaith o lwybrau’r ne’, I eiste’n lle’r gwatwarwyr.

Dy santaidd waith a’th achos di A fo mi’n hyfrydwch; A gwiw gymdeithas D’ anwyl blant Fy mwyniant a’m dyddanwch.

Os caf gysuron ar fy nhaith, Fy melus waith fydd moli: Fy noniau oll, o galon rwydd, I’m Harglwydd gânt eu rhoddi.

Ond os caf gystudd drwy fy oes, A dwyn fy nghroes mewn galar, Heb ddim ond gofid ar bob cam, Gwna fi yn amyneddgar.

Os, fel blodeuyn, gwywo wnaf Yn nechreu haf fy mywyd; Cymhwysa f’enaid, drwy Dy ras, I deyrnas bythol wynfyd.

Os hir fy nhaith, rho im’ Dy hedd, Nes mynd i’r bedd i orffwys; Ac yna seiniaf gyda’th blant Dy foliant ym mharadwys.

CWYNION YAMBA, Y GAETHES DDU.

Er bod mewn caethiwed ymhell o fy ngwlad, ’Rwy’n cofio hoff gartref fy mam a fy nhad, Y babell, a’r goedwig, yr afon, a’r ddôl; Ond byth ni chaiff Yamba ddychwelyd yn ol.

Dros euraidd ororau ymlwybro wnawn gynt, Heb ofid, nac angen, yn llawen fy hynt; A’m plant o gylch gliniau fy mhriod mwyn cu, Heb neb yn fwy boddlon a dedwydd na mi.

Pan unwaith yn gwasgu y bach at fy mron, A’r lleill wrth fy ymyl yn cysgi yn llon; Disgwyliwn fy mhriod, gan sio’n ddi-fraw, Heb feddwl fod dychryn na gelyn gerllaw.

Ond pan yn hoff sugno awelon yr hwyr, Ar unwaith ymdoddai fy nghalon fel cwyr,— Gweld haid o ddyn-ladron yn dyfod o’r môr, Gan guro fy mwthyn nes torri y ddor.

Heb briod, na chyfaill, chwaer, brawd, mam na thad, I achub y gweiniaid crynedig rhag brad, Fe’n llusgwyd, fe’n gwthiwyd, er taered ein cri, I ddû-gell y gaeth-long at gannoedd fel ni.

Wrth riddfan i gyfrif munudau’r nos hir, A threiglo’n ddiorffwys fy mhen gan ei gur, Mi gefais fy maban, ar doriad y dydd, Yn oer ac yn farw—o’i boenau yn rhydd.

Hoff faban fy mynwes! I’r dyfrllyd oer fedd, Er gwaetha’r gormeswr, diangaist mewn hedd: Cei orffwys yn dawel, ni’th werthir byth mwy, Ac ni rydd y fflangell na’r gadwyn it’ glwy,

Ffodd llawer, fel tithau, o gyrraedd pob aeth; Ond eto mae’th gu-fam anwylaf yn gaeth; Pam rhwystrwyd i Yamba gael huno yn llon, A’i sio i orffwys yn mynwes y donn?

Ar ol garw fordaith, a chyrraedd y lan, A’n didol, a’n gwerthu i fynd i bob man; Y brawd bach a rwygid o fynwes ei chwaer, Er mynych lesmeirio wrth lefain yn daer.

Y wraig, wrth ymadael, gusanai ei gŵr, A’i llygaid toddedig yn boddi mewn dŵr: A’r lesg fam a wasgai ei dwyfron—o chwant Cael myned i orwedd i’r un bedd a’i phlant.

Hoff geraint ysgarwyd, er cryfed eu bryd Am weithio, dioddef, a marw ynghyd; Y clymau anwylaf a dorrwyd bob un, A rhwygwyd llinynau y galon ei hun.

I greulawn ormeswr fy ngwerthu a wnaed, I gael fy fflangellu o’m dwyfron i’m traed; Mae’m llafur yn galed, a minnau yn wan, Heb ddefnyn o gysur i’w gael o un man.

Mae’r bwyd roddir imi yn brin ac yn ddrwg, Mae’r haul yn fy llosgi, mae popeth mewn gwg: Dan oer wlith y ddu-nos rhaid cysgu, heb len; O’r braidd y caf garreg i gynnal fy mhen.

Mewn ing rhaid im’ farw, nis gallaf fyw’n hwy, Mae’r holl gorff yn glwyfus, a’r galon yn ddwy; O na chawswn drengu yn mynwes fy ngwlad, Fy mhlant a fy mhriod, fy mam a fy nhad.

Wrth farw, fy ngweddi daer olaf a fydd, I’r caeth o’i gadwynau gael myned yn rhydd: Pa Gristion, heb deimlo ei galon mewn aeth, All gofio du lafur ei frodyr sy’n gaeth?

O Brydain brydweddol! “Arglwyddes y donn,” Na âd i un gaeth-long ymrwygo drwy hon; Cwyd Faner wen Rhyddid, nes gwawrio y dydd I’r olaf gael dianc o’i gadwyn yn rhydd.

Y CREULONDEB O FFLANGELLU BENYWOD.

A ysgrifenwyd wrth ddarllen penderfyniad barbaraidd blaenoriaid dideimlad planfeydd Jamaica, i ddinoethi a fflangellu gwyryfon a gwragedd.

Pe bae gennyt deimlad, pe byddi tyn Gristion, Fe wridai dy wyneb, fe waedai dy galon, Weld menyw brydweddol wrth gadwyn yn crynnu, Dan fflangell anifail yn griddfan a gwaedu; O ystyr, yn dirion, ei gwylder a’i dagrau; Tafl ymaith y fflangell, a dryllia’i chadwynau.

Dwys glwyfir, bob ergyd, ei chorff teg tyneraidd, Ond dyfnach y clwyfir ei gwylder benywaidd; Heblaw ei harcholli o’r ddaear i’r ddwyfron, Mae’r fflangell mewn ail fodd yn cyrraedd ei chalon; O ystyr, yn dirion, ei gwylder a’i dagrau; Tafl ymaith y fflangell, a dryllia’i chadwynau.

Pan oeddit yn faban hi’th wasgai i’w mynwes, A breichiau o’th amgylch, hi’th gadwai yn gynnes; Rho’i gusan, dan wenu, i’th gadw’n ddiddanus, Ac ar ei bron dyner hi’th siai i orffwys: O ystyr, yn dirion, ei gwylder a’i dagrau; Tafl ymaith y fflangell, a dryllia’i chadwynau.

Trywenid ei mynwes gan ingawl ddwys alaeth, A gwewyr dirboenus, cyn dyfod yn famaeth: A chreulawn ei gwasgu mewn cyfyng amgylchiad, Sy’n gofyn ymgeledd, tynerwch, a chariad; O ystyr, yn dirion, ei gwylder a’i dagrau; Tafl ymaith y fflangell, a dryllia’i chadwynau.

Dyngarwch a rhinwedd ymgiliant i wylo, A chrefydd, o hirbell, saif draw dan och’neidio,— Gweld gwaedlyd archollion y fflangell gylymog Yn gwysau plethedig dan ddwyfron y feichiog; O ystyr, yn dirion, ei gwylder a’i dagrau; Tafl ymaith y fflangell, a diyllia’i chadwynau.

Mae Llywydd y bydoedd yn gweled ei chlwyfau, Mae’n clywed ei chwynion, mae’n cyfrif ei dagrau, Mae’n codi i ddial—clyw’r daran yn rhuo— Mae’n gwisgo ei gleddyf, mae bron mynd i daro: O cryned dy galon! ymostwng mewn dychryn, Tafl ymaith y fflangell, a dryllia y gadwyn.

Y FENYW WENIEITHUS.

Ar wyll y nos, dan dywyll lenni’r hwyr, Pan guddid gwên yr haul dan orchudd llwyr, Yn nrws ei thy, yn denawl wenu’n llon, Mewn esmwyth wisg, a dichell dan ei bron, Y fenyw dêg wenieithus welaf draw, Yn gwamal droi ei llygaid ar bob llaw, Nes canfod llanc mwyn hardd-dêg, ond heb bwyll Na deall da i ochel hudawl dwyll.

Gan ddal ei law, hi a’i cusanodd ef, Ac mewn iaith ystwyth, gyda dengar lef, Dywedai’n hyf,—“Roedd im’ aberthau hedd, Ond cedwais wyl, a gwnaethum heddyw wledd: Yr hen adduned ddwys, cywirais hi, A brysiais heno’n llon i’th gyfarch di: Fy ngwely drwsiais â cherfiadau gwych, Ac â sidanaidd lenni têg eu drych; Mwg-derthais ef âg enaint peraidd iawn, O aloes, myrr, a sinamon, mae’n llawn. Tyrd gyda mi,—ni chawn byth gyfle gwell I garu’n gu,—mae’r gŵr yn awr ymhell: O arian cymerth godaid yn ei law, Ac ar y dydd amodol adref daw. Mae dyfroedd cêl fel gwin i’r galon brudd, Cawn hyfryd wledd o beraidd fara cudd.”

A’i geiriau teg, ei droi a’i ddenu wnaeth, Nes cael i’w rhwyd ei galon ffol yn gaeth; Fel ych yn fud i’r lladdfa aeth yn glau, Neu fel yr ynfyd cyn i’r cyffion gau: Heb gofio gwg na llygad craff yr Ior, Canlynodd hi, gan ddistaw gau y ddôr.

Ymysg ei fwyn hoff gu gyfoedion llon, Lle rhodiai gynt heb ofid dan ei fron, Nac yn ei dŷ, ni welwyd mono mwy; Ei geraint oll, mewn galar gwelid hwy. Ei dad, mewn dagrau, ro’i ei ben dan gudd, A’i fam, wrth riddfan, rwygai ‘i mynwes brudd.

Wrth wrando llais y fenyw ddengar ddrwg, Cynhyrfir Ior y nef i wisgo gwg; Porth uffern yw ei haddurnedig dŷ, A’i ffordd i gell oer angau’n arwain sy; Gweu maglau mae i ddal eneidiau’n gaeth Yn nyfnder gwae, i oddef bythol aeth; Os yno’r a, nid oes i’r adyn ffol Ond gobaith gwan y dychwel byth yn ol.

Y TWYLLWR HUDAWL.

Mewn hyfryd le o gyrraedd swn y byd, Y trigai’n llon forwynig deg ei phryd; Hoff unig ferch ei dedwydd fam a’i thad, Heb dan ei bron na briw na thwyll na brad.

Pan, gyda’r wawr, y pigai’n llon o blith Pêi-lysiau’r maes a dagrau’r bore wlith, Y rhosyn coch a’r lili, teg eu drych, I fritho’n hardd ei swp o flodau gwych, A phan adseiniai lais yr eos fwyn, Gan heinif ddawnsio’r gân o dwyn i dwyn,— O’r braidd, er craffu, gall’sid dweyd ar g’oedd, Pa un ai dynes ai angyles oedd.

Ond gwywo wnaeth y gwrid oedd ar ei grudd, A buan ffôdd y gân o’i mynwes brudd. Un hwyr, gan wisgo gwên, rhyw dwyllwr ddaeth I geisio ’i dal mewn hudawl serch yn gaeth. Wrth weld ei wên, ei chalon dyner wan, Heb feddwl drwg, orchfygwyd yn y fan: A’r gelyn cas, ’nol ei handwyo hi, Arllwysai wawd, heb wrando ar ei chri.

Ei thad, wrth weld ei gwarth, creuloni wnaeth, A’i galon falch fel darn o garreg aeth; Dan erchyll reg—gan droi ei wyneb draw— Ei gwthio wnaeth o’i dŷ i’r gwynt a’r gwlaw; A chloi ei ddrws, gan greulawn dyngu’n ffol, Na chai hi byth ddychwelyd yno’n ol.

Ar gopa craig, wrth oleu gwan y lloer, Ei baban gaed yn farw ac yn oer; A’i ddagrau’n iâ tryloew ar ei rudd, A’i ddwylaw bychain rewent wrth y pridd.

Y fam, yn awr o’i phwyll, yn llwyd a gwan, A grwydrai’r dydd yn brudd o fan i fan; A’r nos, mewn lludded dost, eisteddai’n syn Dan gysgod llwyn, neu fry ar ael y bryn: Ing ar ol ing drywanai ’i mynwes brudd, Ond byth ni welid deigryn ar ei grudd.

Yn glaf neu iach, âi allan ar bob hin, Ac yn ei llaw y cariai gorsen grin, Gan ddistaw ddweyd o hyd, yn syn ei gwedd,— “Fy chwaer yw hon, a daw i wylio’m bedd.” Ni soniai byth am gâr, na mam, na thad, Na’i hudwr cas, nac am ei baban mad; Ymddiddan wnai, bob dydd, â’r gorsen grin, Heb deimlo dwys effeithiau ’i chystudd blin. Nes marw dan oer wlith y niwlogf nen, Heb frawd na chwaer i gynnal pwys ei phen. O’i llygredd oll ei chyflawn buro wnaed, Gan Ysbryd Duw, drwy rin y dwyfol waed; A’i henaid ffodd o’r maglau oll yn rhydd, Gan hedeg fry i wlad o fythol ddydd.

Ond wrth gyfleu ei chorff i’w wely pridd, Ei thad, dan guro’i fron, felldig ai’r dydd Y gwelodd hi o’i dŷ yn gorfod ffoi, Mewn cyflwr gwan, heb wybod p’le i droi: A’i hudwr tlawd a welai, er ei fraw, Ddialydd llym â’i gleddyf yn ei law; A’i Farnwr dig ar ddisglaer orsedd lân, A’i wae’n seliedig mewn llyth’renau tân.

DAROSTYNGIAD A DERCHAFIAD CRIST.

I Gu Geidwad gwael bechadur, Gyda gwylder, seiniwn gân; Ac enynner yn ein mynwes Fywiol fflam o nefol dân: Canwn am Ei ddarostyngiad, Am Ei gur a’i gariad Ef, Gan adseinio tonau mwynion Telynorion llys y nef.

Wrth weld adyn diymgeledd, Tlawd, yn gorwedd yn Ei waed, Dan ei faich, yn archolledig O’i ben ysig hyd Ei draed; Heb un cyfaill i dosturio, Heb un balm i’w galon friw, Codai Iesu lef drugarog Am i’r euog gwael gael byw.

Gadael uchel sedd gogoniant, Gadael moliant dirif lu, Gadael hardd frenhinol goron Wnaeth ein tirion Iesu cu; Disgyn wnaeth ar edyn cariad, Achub oedd Ei fwriad E’, Daeth o’i fodd i gystudd chweiw, Daeth i farw yn ein lle.

Yn y preseb, pan yn faban, Llesg ac egwan gwelwyd Ef: Isel annedd, gwael ymgeledd, Gadd Etifedd mawr y nef: Eto seren gain y dwyrain, Wenai ar ei lety gwael; Thus, a myrr, ac aur-anrhegion, Wrth Ei draed ro’i’r doethion hael.

Dirif luaws ser y bore, Drwy’r wybrennau seinient gân, Gan fwyn ateb cyngan nefol Y waredol dyrfa lân: Gras, cyfiawnder, a gwirionedd, A thrugaredd yn gytun, Wrth yr orsedd yn hoff wenu Am gael modd i godi dyn.

Cilio wnaeth y tew gysgodau, Gwawriodd hyfryd oleu ddydd; Nid oes eisiau gwaedlyd ebyrth, Thuser aur, nac allor bridd: Daeth y Gogoneddus Sylwedd, Daeth yr addawedig Had, Cododd disglaer Haul Cyfiawnder, Sain y durtur sydd trwy’r wlad

Mwy ni cheisir urddau Aaron, Olew pêr, na brasder ŵyn; Gwisgo’r Urim ar ei ddwyfron Yn y nef mae’r Iesu mwyn; Wrth yr allor aur mae’n gweini, Clywir adsain clychau hedd; Yn Ei law mae’r aur deyrnwialen, Wrth Ei glun mae’r dwyfol gledd.

Hoeliodd ddeddf yr ordinhadau, Oedd i’n herbyn, wrth Ei groes, Gan yspeilio’r awdurdodau Pan yn dioddef angau loes; Cododd faner wen trugaredd, Drylliodd gedyrn byrth y bedd, Seiniodd jubil lawn i’r caethion, Ac arlwy odd radlawn wledd.

Agoriadau y llywodraeth Wisgwyd ar Ei ysgwydd Ef, Rhoddwyd iddo bob awdurdod Ar y ddaer ac yn y nef; Marchog mae yng ngherbyd cariad, Troi o’i gylch mae engyl nef; Sigla cedyrn byrth y fagddu Hyd eu sail wrth rym ei lef.

Croesaw iddo wisgo’r goron, Aed Ei enw dros y byd; Plyged pawb i’w fwyn awdurdod Am Ei gymod Ef inewn pryd; Boed i’r euog tlawd ymguddio Dan Ei dawel gysgod Ef, Boed i’r gwannaf ffyddiog bwyso Ar Ei fraich alluog gref.

Mewn gogoniant dirfawr eto, Heb y groes a’r goron ddrain, Disgyn gyda myrdd myrddiynau, Llawen floedd, ac uchel sain; Cwyd Ei orsedd, egyr lyfrau, Sigla seiliau dyfna’r bedd, Lleda’r wyntyll, hwylia’r clorian, Ysgwyd fry Ei farnol gledd.

Pan y ffy y nefoedd heibio, Pan y byddo’r ddaer yn dân, A’r holl anwir fyd mewn cyffro, A llu’r saint yn seinio cân; Pan y todda’r euog ymaith Dan lewygon bythol fraw, Boed i ni gael tawel orffwys Ar ei dirion ddeheu law.

BUDDUGOLIAETHAU YR EFENGYL YN Y MIL BLYNYDDOEDD.

Dan Haul Y Prydnawn. (Bythynod yn Llanbrynmair)
Dan Haul Y Prydnawn. (Bythynod yn Llanbrynmair)

Efengyl oludog! Angyles trugaredd, Mae cyrrau y ddaear am weled dy wedd; Ym mantell dy harddwch, ar gerbyd dy haeledd, Dos rhagot nes llenwi y byd â dy hedd; Mae gennyt ti’n barod wledd lawn i’r newynog, A chymod i’r euog, a hardd-wisg i’r noeth, A thrysor i’w rannu rhwng tlodion anghenog, Sydd fyrdd mwy ei werth na mil myrdd o aur coeth.

Mae’r byd yn ymysgwyd o gwsg mil o oesau, Gan dditif dylwythau cei roesaw i’w mysg, A gwastad balmantwyd ffyrdd rhyddion i’th gerbyd Gan feibion celfyddyd, masnachaeth, a dysg: Peiriannau tân cariad i droi dy olwynion Yw’r llon Gymdeithasau addurnant ein gwlad; A chwareu diwy’r nef mae holl dannau gorfoledd, Fod gobaith i ddyn gael ymgeledd yn rhad.

Cyhoeddwyd o’r cynfyd gan lais ysbrydoliaeth Am bur effeithiolaeth diatal dy ras,— Llwyr ofer i’r bobloedd i’th erbyn derfysgu, I lengoedd y fagddu amlygu eu câs: I’th ddilyn wrth d’alwad cwyd torf o genhadon A’u calon yn fflamio dan fedydd o dân; Ymdaenu trwy wersyll y gelyn mae’r cyffro, Mae’r delwau’n malurio yn fawrion a mân.

Mae’th weision yn barod i gludo’th drysorau Trwy’r ’stormydd, tros donnau trochionogy y môr; Wynebant yn llon ar dros fil o ynysoedd, I dd’weyd am oludoedd trugaredd yr Ior; Dilynant afonydd, ânt trwy anial-diroedd, A dringant fynyddoedd clogwynog yr ia, I ddangos i adyn ar suddo mewn adfyd Fodd i achub ei fywyd a symud ei bla.

Mae llwythau yr Oen, wrth dy weld, yn gwroli, Llawenydd a chân sy’n coroni eu pen; Mae gwresog bêr anadl eu cariad a’u gweddi Yn chwalu’r cymylau fu rhyngddynt a’r nen; A gwelir ysprydoedd y perffaith gyfiawnion, Fel cwmwl o dystion ar furiau y nef, Yn plygu i wrando’u plethedig ganiadau, Gan hwylio’u telynau i ateb eu llef.

Daeth Iesu o Bosra a’i ddillad yn gochion, Gan ymdaith yn eon yn amlder ei rym; Enillodd holl yspail y tywysogaethau, Gall ddial, neu faddeu,—ei gledd sydd yn llym; O’i orsedd llefara mewn iawnder a chariad, Mae’n gwisgo agoriad awdurdod a bri; Gan hynny ni lwydda dy elyn na’i luoedd, Mae Brenin y nefoedd yn Noddwr i ti.

Wrth wrando dy gais dros y Gŵr a groeshoeliwyd, Dwysbigwyd calonnau myrddiynau cyn hyn, A denwyd trueiniaid i droi eu hwynebau O swynol lwyn Daphne i Galfari fryn; Dadblygaist dy faner ar brif-ddinas Rhufain, Ce’st luoedd yn Athen i ganmol y gwaed; A golchaist yn Nghorinth dorf fawr o’r rhai duaf, Gan wisgo mewn gwyn yr aflanaf a gaed.

Dy lais yn oes Luther ddychrynnodd y bwystfil, Dy wên doddodd galon y Greenlander draw, A dofwyd cynddaredd y Bushman trwy’th eiriau, Nes gollwng ei saethau gwenwynigo’i law; Dy felus beroriaeth trwy helaeth goedwigoedd America fras, ac Ynysoedd y De, A ddenodd farbariaid o’u dawns yn y llwyni, I wrando a chanu am gariad y Ne’.

Dihunodd yr udgyrn gydwybod Brytania I ollwng wyth gan-mil o’i chaethion yn rhydd; A gyrraist gyflawnder o bêr-falm Calfaria I wella archollion y galon fu’n brudd; O gylch elor gormes mae myrdd o gadwynau Ar wasgar yn ddarnau drylliedig dan draed; A’r famaeth a’i maban sy’n llon gadw jubil Uwch bedd yr anghenfil fu’n meddwi ar waed.

Gorchfygodd yr Oen i agoryd y seliau, A llawn yw’r phiolau ar allor y nef; Hardd sefyll o’u cylch mae eneidiau’r merthyron, Mewn gynau claerwynion, yn llawen eu llef; O’u llwch cododd ysbryd a ddryllia’r cadwynau Fu’n dal cydwybodau am oesoedd yn gaeth; Pinaglau coelgrefydd yn chwilfriw a chwelir, A’r gelyn ymlidir i’r llyn o’r lle daeth.

Bu anghymedroldeb yn llifo am oesau, Bu’n lledu ei donnau fel dylif o dân; A chyfoeth, a chysur, a bywyd myrddiynau, Er pob atal-furiau, ysgubid o’i flaen; Ond codaist dy faner er atal ei ymchwydd, A safodd yn ebrwydd, a chiliodd mewn brys; Ac ’nawr lle bu’r gelyn yn creulawn deyrnasu, Mae rhinwedd yn codi hardd orsedd ei lys.

Bu erchyll olwynion car Moloch Hindostan Yn treiglo dros balmant o esgyrn a gwaed, A myrdd o rai gwallgof dan floeddio’n ei dynnu, Gan fathru eu plant a’u rhieni dan draed; Ond safodd er’s dyddiau, ni faidd dy gyfarfod, Mae’n suddo i’r tywod, a’i lu’n cilio draw; Mae blodau sidanaidd ei dŵr wedi gwywo, A’i gêr yn malurio trwy’r tes a thrwy’r gwlaw.

Heb ddim o ffydd Abram, bu myrdd o’i hiliogaeth Dan iau annghrediniaeth yn gaeth lawer oes; Ond troant i’th ddilyn, gan gerdded ac wylo, Nes tawel ymffrostio yn Aberth y groes; Ail-hwylir y delyn fu’n hir ar yr helyg, Daw’r llwythau crwydredig i Seion mewn hedd; Am ryfedd rinweddau y gwaed y cydganant, A melus ganmolant gyflawnder y wledd.

Trwy’r fro lle bu Israel yn lledu ei babell, Bro cafell y ddisglaer Shecina cyn hyn, Bro melus beroriaeth telynau’r proff wydi, Bro’r ardd lle bu’r chwysu, bro Calfari fryn: Trwy honno mae’r wawr ’nawr yn gwasgar ei goleu I ymlid cysgodau coelgrefydd ar ffo; Trwy honno tyrr eto sain tannau gorfoledd, A blodeu tangnefedd goronant y fro.

Hardd Rosyn Glyn Saron a siriol flodeua Ar foelydd Siberia a gwledydd yr ia, A’r awel wasgara ei iraidd aroglau Nes gwella tylwythau y Tartar o’u pla; I wlad y Saith Eglwys fu gynt yn flodeuog Estynnir yr eurog ganwyllbren yn ol, Ceir eto fflam fywiol o’r allor i danio Lamp gras i oleuo pob bryn a phob dôl.

Dan iau tri chan miliwn o eilunaddolwyr Mae China mewn gwewyr yn griddfan yn awr; Ond siglwyd ei mur, er cadarned ei seiliau,— Mae eisoes yn fylchau, daw’n ddarnau i lawr; Llon-gyrcha minteioedd i gysgod ei llwyni I ddarllen a chanu am Aberth y bryn, Ti wy demlau Fôbî mae cerí-ddelwau yn crynnu, A’u crefftwyr yn gwelwi, gan ediych yn syn.

Mae awel adfywiol yn awr yn ymsymud Ar wyneb du-ddyfnder cymysglyd y byd; Ar dymor dymunol mae’r nefol addewid Bron esgor—mae gwewyr drwy natur i gyd: Llawn bywyd yw heinif forwynion Rhagluniaeth, Mae tannau mwyn odiaeth pob telyn mewn hwyl, Mae arlwy frenhinol yn rhad i’r holl bobloedd, A mil o flynyddoedd fydd yspaid yr wyl.

Goleuni gwybodaeth trwy’r ddaear ymdaena, O’i flaen yr ymgilia’r tywyllwch yn glau; Breuddwydion coelgrefydd fel niwl a ddiflanna, A’r bleiddiaid gormesol a ffoant i’w ffau; Cyfaredd y friglwyd ddewines a dorrir, Y Gair a ddilynir fel Rheol y Gwir; Doethineb fydd sicrwydd a nerth yr amserau, Hyfrydwch hardd-fryniau y nef leinw’r tir.

Holl ddoniau yr enaid a gydymegniant Er cynnydd ei fwyniant a symud ei boen; Harddwisgir traethodau’r anianydd dysgedig Ag iaith ostyngedig o fawredd i’r Oen; Diweirdeb a rhinwedd a hoffant felusder Y delyn fwyn seinber roes gynt iddynt glwy; I chwythu eu gwenwyn dan flodeu maes awen, Colynawg seirff uffern ni lechant yn hwy.

Gwir ydyw fod rhannau o’r wybren mewn cyffro, Ond tyrfu wrth gilio mae’r ’storom yn awr; Cenfigen a drenga, a nefol dangnefedd Deyrnasa mewn mawredd dros wyneb y llawr; Dinystriol beiriannau tân rhyfel a ddryllir, Y march coch a rwymir mewn cadwyn o bres; Ymleda yr heulwen nes chwalu’r tywyllwch, A blodeu brawdgarwch a dyf yn ei gwres.

Defnynna sancteiddrwydd o’r nef fel gwlith Hermon, Melysa gysuron holl gylchoedd y byd, Addurna y cerbyd, y meitr, a’r goron, Nefola serchiadau y galon i gyd; Ireiddia ei olew olwynion masnachaeth, A hwylia ei awel holl longau y môr, Ei darth gwyd o’r allor, a’i iachus aroglau A leinw holl gonglau cysegroedd yr Ior.

Yr anial di-annedd, fel rhosyn, flodeua, Y myrtwydd addurna hardd odre y bryn, Ym mhen y mynyddoedd bydd yd yn ddyrneidiau, Tyf brwyn lle bu’r dreigiau, daw’r crasdir yn llyn; Bwytânt o bêr-ffrwythau’r gwinllannoedd a blannant, A’u tai gyfaneddant dros ddedwydd oes hir; Hardd-wridog a heinif y ceir y mab canmlwydd, Hyfrydwch a llwydd a briodant y tir.

Sylfaenir pryd hyn y Jerusalem newydd A saphir,—a hon fydd gogoniant y byd; O feini dymunol y gwneir ei therfynau, A’i phyrth fydd o berlau uchelbris i gyd; Agaur y palmentir ei llydain heolydd, O fewn ei magwyrydd bydd iechyd dilgth, A thrwy ei grisialaidd ffenestri tywynna Gogoniant Jehofa, heb fachlud mwy byth.

Tymhorau ei gweddwdod a’i galar a dderfydd, Llawenydd i’r holl genhedlaethau a fydd; O fewn ei therfynau am drais byth ni chlywir, A chenedl a enir o’i mewn yr un dydd; Brenbinoedd a welant ei disglaer ogoniant, Ac iddi y dygant anrhegion heb rif; Diwellir ei phlant â helaethrwydd diddanwch, A’i heddwch ymchwydda fel tonnau y llif.

Llys Ior geir i’w chanol, ac allan o’i oisedd Yr afon risialaidd a lifa heb drai; O’i deutu bydd tyrfa nad elli ei rhifo Yn rhodio heb deimlo na melldith na gwae; Dan gysgod iachusol gwyrdd ddail pren y bywyd Cydgadwant wyl hyfryd heb lygredd na phoen; A’r Oen gadd ei ladd a’u bugeilia hwy’n wastad, A byrdôn eu caniad fydd—“Teilwng yw’r Oen.”

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings