← Table of contents
Geiriadur Cymraeg a Saesneg Byr

Rhagymadrodd.

Reading edition

Amcan y Geiriadur hyr bwn yw rhoddi ychydig gymorth i efrydwyr Cymraeg y canol oesoedd. Denwyd fi at y gwaith, oherwydd nad oes Eiriadur hawdd ei gael i lenyddiaeth Cymreig y cyfnod rhwng Gruffydd ab Cynan a Beibl 1588.

Fy amcan cyntaf oedd cywiro a thalfyrru cyfieithiad Thomas Jones o Dictionarium Britannico-Latinum Dr. Davies. Y Geiriadur Cymreig a Lladin a Lladin a Chymraeg hwn yw’r goreu eto; ond y mae yn anghyflawn, ac nid yw yn hawdd i’w gael. Ysgrifennodd y Dr. Davies ei ragymadrodd i’w Eiriadur y dydd olaf o Fai, 1632. Cyhoeddodd Thomas Jones ei gyfieithiad ohono yn 1688.

Drwy annog yr Athraw J. Morris Jones, penderfynais wneyd ychwaneg na chywiro a chrynhoi; gwnes y Geiriadur mor gyflawn ag y gallwn drwy fy narllen fy hun, a chymorth Geiriaduron diweddarach. Defnyddiais, yn enwedig, Archæologia Edward Lluyd, 1707; Geiriadur Dr. W. Owen Pughe, 1803, rhyfeddod o wybodaeth a llafur, er ei ddamcaniaethau ofer a’i ddychmygion gwyllt; a Geiriadur anghyflawn fy hen athraw D. Silvan Evans, gyda’r hwn y bu farw yn 1903 gymaint o gof o bethau Cymreig.

Mor bell ac y gallwn farnu,—oddiwrth lenyddiaeth, enwau lleoedd, a’r defnydd wneir ar lafar o eiriau’n awr,—yr oedd pob gair sydd yn y Geiriadur hwn ar arfer yn 1588. Felly nid yw’r llyfr bychan hwn yn rhoddi cymorth i ddangos fel y tyfodd yr iaith er cyfnod cyfieithu’r Beibl.

Edrychodd yr Athraw J. Morris Jones drwy y rhan fwyaf o’r proflenni. Achubodd fi o amryw byllau, ychwanegodd rai geiriau, a bu ei gyngor yn dra gwerthfawr. Ond na ddalier ef yn gydgyfrifol am un gwall; gallai fod yn y llyfr wallau na welodd ef, a hwyrach na ddilynwyd ei gyngor bob amser.

Gwnes fy ngoreu, ond gwn fod y llyfr yn amherffaith. A gaf fi ofyn i efrydwyr hanes a llenyddiaeth Cymru yn y canol oesoedd roddi prawf arno, a gwneyd rhestrau o eiriau a dyfyniadau, fel y gallaf ei wella?

OWEN M. EDWARDS.

Coleg Lincoln, Rhydychen. Ionawr 30, 1905.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings