← Table of contents
Cartrefi Cymru

TREFECA.

Reading edition

“Dyma’r fan, tr’wy byw mi gofiaf, Gwelais i di gynta erioed, O flaen porth yr eglwys eang Heb un twmpath dan dy droed, Mewn rhyw ysbryd dwys sylweddol, Fel yng ngolwg dydd a ddaw, Yn cynghori dy blwyfolion, A dweyd fod y farn ger llaw.”

Eglwys Talgarth
Eglwys Talgarth

A dyma’r eglwys lle gorwedd Howel Harris, udgorn y Diwygiad! Yn yr eglwys acw yr argyhoeddwyd ef, a rhoddwyd ef i orwedd lle y clywodd lais Duw yn cynnyg trugaredd iddo. A dacw’r fan lle pregethai pan basiodd William Williams, ar ei ffordd adref o’r ysgol i Bant y Celyn. Bore gofiwyd byth gan William Williams oedd hwnnw,—

“Dyma’r boreu, byth mi gofiaf, Clywais innau lais y nef; Daliwyd fi wrth wys oddiuchod, Gan ei swn dychrynllyd ef.”

Ychydig o lanerchi ar ddaear Cymru sydd mor gysegredig i deimlad Cymro a’r llannerch hon,—lle gwelwyd apostol cynhyrfus y Diwygiad yn pregethu argyhoeddiad i emynnwr y Diwygiad.

Llannerch dawel, brydferth ydyw. Y mae ar ychydig o godiad tir, a dringir iddi o dref fechan Talgarth welwn o bobtu i aber Enig a helyg ac ysgaw rhyngom a hi. Y mae golwg hyfryd ar y wlad oddiamgylch, saif cylch o fynyddoedd gwyrddleision fel gwylwyr uwchben y fynwent, a chyfyd tŵr ysgwar yr eglwys i fyny’n uchel ac yn hyf, i ddangos yspotyn mwyaf cysegredig y fro ddyddorol a phrydferth hon. Y mae’n bedwar o’r gloch ar gloc yr eglwys, ac y mae distawrwydd adfywiol nawn haf wedi disgyn, fel gwlith, ar y wlad ffrwythlawn dyfadwy. Y mae rhyw orffwys breuddwydiol yn meddiannu f’enaid innau wrth neshau at y fynwent; a su hen ddigwyddiadau, fel ysbrydion llawer cnul a llawer claddfa, yn llenwi’r distawrwydd ar nawn haf. Y mae hud dros bopeth, prin y mae digon o natur beirniadu ynnof i gael poen oddiwrth y cerrig beddau di chwaeth, gyda’u llythrennau efydd, sydd ym mhlith hen gerrig mwsoglyd y fynwent. Sefais, ar ddamwain, cyn dod at borth yr eglwys, a disgynnodd fy ngolwg ar enw Howel Harris. Carreg fedd ei dad oedd. Ar hon y dywedir fod Howel Harris yn pregethu pan safodd Williams Pant y Celyn wrth fynd heibio, i glywed ei alwad ef ei hun. Y mae’r llythrennau mor berffaith ag oeddynt pan safai Howel Harris, os safai hefyd, ar y garreg i gyhoeddi ei newyddion rhyfedd. Yr oedd gwirioneddau’r byd tragwyddol mor fyw o’i flaen ef fel mai prin y sylwai, hwyrach, ar yr olygfa o’i gwmpas. Eneidiau anfarwol, nid mynyddoedd a lamant fel hyrddod a bryniau a branciant fel ŵyn defaid, a welai ef. Ond maddeuer i mi, o gyneddfau gwannach a chyda llai o ddychymyg, am syllu ar yr olygfa. Y mae’n araf godi o’m blaen, fel yr oedd y diwrnod y daliwyd yr emynnwr â gwys oddi uchod. Dacw Howel Harris ar y garreg fedd, a’i lais yn ddychryn i’r dyrfa sy’n gwelwi o’i flaen. Dacw wr ieuanc ar ei ffordd adref o’r ysgol wrth ddrws y fynwent, yn gwasgu’n agosach i gwr y dorf, ac yn colli golwg arno ei hun wrth wrando, mewn syndod a dychryn, ar y llais taran hwnnw. O flaen y pregethwr y mae chwech o yw mawreddog,—y maent yno eto yn eu duwch wylofus,—a thref Talgarth. Uwchben dacw’r Mynydd Du; ac o amgylch y mae bryniau blodeuog ardal sydd ymysg ardaloedd tlysaf Cymru.

Ni raid myned ymhell i gael hanes olaf y pregethwr gynhyrfodd fwyaf ar Gymru o’r holl bregethwyr fu yng ngwlad y pregethu erioed. Eis ymlaen trwy’r fynwent, ac at ddrws yr eglwys. Y mae’r eglwys yn isel a llydan; ac yn drymaidd iawn y tu mewn. Cerddais yng nghyfeiriad y côr, a gwelwn ysgrifen hanes Howel Harris ar garreg.

Gwelais lawer carreg fedd mewn llawer gwlad mewn llawer lle rhyfedd,—gwelais y garreg ar fedd gwag Dante, gwelais fedd Chateaubriand mewn craig yn nannedd y tonnau, gwelais feddau rhai enwog mewn eglwysi mawrwych,—ond ni theimlais gymaint yn unlle ag yn eglwys drymaidd dywell Talgarth. Hyfryd i Howel Harris oedd huno lle y clywodd y bywyd newydd yn ymweithio yn ei enaid. Teimlwn fod mwy na bedd yn eglwys Talgarth; teimlwn fy mod ar lecyn genedigaeth Cymru newydd. Beth bynnag arall fedrir ddweyd am ei hyawdledd ac am ei athrylith, ac am ei gynlluniau rhyfedd, gellir priodoli deffroad Cymru, o gwsg oedd yn marweiddio ei nherth cenhedlaethol, iddo ef yn fwy nag i neb arall.

Ond y mae ychwaneg na’i hanes ef ar y garreg, digon i’m hadgofio am y teimladau daiarol,—teimladau ag arlliw y nef arnynt,—oedd mor gryf yn ei enaid. Ar ei deithiau pregethu, yn ei weddiau, yn ei freuddwydion, yn ei ofnau, y mae un nad enwa yn bresennol yn barhaus. Bum yn darllen ei lythyrau ati, a’r cynnyg priodas. Wedi hanes yr ymserchu a’r ofni,—stori sydd mor hen, ac mor newydd,—dyma ei hanes olaf hithau, wedi siarad am yr lesu â’i hanadl olaf.

Mewn awr hamddenol, ryw dro, cesglais lythyrau caru dyddorol. Yn eu mysg yr oedd un oddiwrth Nathaniel, mab Daniel Rowland, at ferch Howel Harris. Y mae yma air o’i hanes hithau, unig blentyn eu gofal, ar waelod y garreg.

Cwsg yn hyfryd, apostol Cymru,—

“Cwsg i lawr yn eglwys Talgarth, Lle nad oes na phoen na gwae; Mi gai godi i’r lan i fywyd, Sy’n dragwyddol yn parhau.”

Cawsom fwynhau golygfeydd prydferth ac awel nawnol yn suo dros gae o feillion peraroglus wrth gerdded y filldir sydd rhwng Talgarth a Threfeca.

Trefeca. Yr ochr agosaf at Dalgarth
Trefeca. Yr ochr agosaf at Dalgarth

A dacw Drefeca yn y golwg. Ymgyfyd fel llinell hir o gestyll a thai diwedd y Canol Oesoedd, dros gaeau gweiriog. Oni bai am y capel hyll ar y chwith, buasai’n adeilad tarawiadol a phrydferth iawn. Yma, mewn tawelwch, y treuliodd Howel Harris y rhan fwyaf o’i oes. Wedi’r ymrafael, pan welodd ei fod yn colli gafael ar y dychweledigion drowd trwy ei weinidogaeth ef ei hun, gadawodd ei bregethu teithiol, ac ymneillduodd i’w gartref, gan wneyd Trefeca yn gartref i bawb hoffai adael ei fro a dyfod i gydweithio ac i gyd-addoli. Ffurfiai’r holl gwmni un teulu, yr oedd eu heiddo’n gyffredin, ac yr oedd cynilun eu bywyd yn debycach i freuddwyd rhyw athronydd nag i gynllun yn cael ei weithio allan gyda brwdfrydedd a llwyddiant. Tuag at gadw cymdeithas fel hyn gyda’i gilydd yr oedd eisiau mwy na chrefydd a hyawdledd, yr oedd eisieu medr anghyffredin mewn trin dynion. Nid oes odid i ddim yn hanes Cymru mor ddyddorol ag ymgais Howel Harris i sylweddoli, rhwng bryniau Cymru, gynllun yr eglwys yn nyddiau yr apostolion. Yng ngwyneb pob anhawsderau,—diogi, ymrysonau, gwrthgiliad, priodi anghydmarus ymysg aelodau’r teulu,—yr oedd Trefeca dan Howel Harris yn llwyddo ac yn blodeuo. Bu’n fwy llwyddiannus, hwyrach, na’r un a geisiodd sefydlu cymdeithas o’r fath. Yn grefyddwyr, yn filwyr, yn weithwyr,—enillodd “Teulu Trefeca” barch ac edmygedd rhai wawdiai, ar y cyntaf, y syniad o godi mynachlog yn Nhrefeca. Ebe Williams Pant y Celyn,—

“Pam y treuliaist dy holl ddyddiau I wneyd rhyw fynachlog fawr, Pan y tynnodd Harri frenin Fwy na mil o’r rhain i lawr? Diau buasit hwy dy ddyddiau, A melusach fuasai’n ’nghân. Pe treuliasit dy holl amser Yng nghwmpeini’r defaid mân.”

Nid yn aml y cofir mai ychydig o’i oes roddodd Howel Harris i bregethu. Cwestiwn ei frodyr oedd,—

“Pam y llechaist mewn rhyw ogof, Castell a ddyfeisiodd dyn. Ac anghofiaist y ddiadell Argyhoeddaist ti dy hun?”

Ond ffurfio “teulu,” tebyg, i’r eglwys yn adeg yr apostolion, oedd ei amcan ef; a gwastraffodd ar Drefeca y llafur yr oedd holl Gymru yn dyheu am dano,—

“Ai bugeilia cant o ddefaid, O rai oerion, hesbion, sych, Ac adeilo iddynt balas A chorlannau trefnus gwych,— Etyb seinio pur Efengyl, Bloeddio’r Iachawdwriaeth rydd, O Gaerlleon bell i Benfro, O Gaergybi i Gaer Dydd?”

Dyma ni’n troi o’r ffordd, ar hyd rhodfa trwy gae gwair, at wyneb y coleg. O’i flaen y mae coed bytholwyrdd lawer; ac y mae golwg henafol ar yr holl adeilad mawr di drefn, ar ei ffenestri crynion tyrog, gyda’r cloc a’r lantar yn sefyll uwchben y cwbl. Aethom heibio’r wyneb, a thrwy ddrws yn yr ochr i ystafelloedd bychain, ond hynod ddiddos a chysurus. Wedi hwyr-bryd blasus, digwyddais edrych ar nenfwd wyngalchog yr ystafell yr eisteddem ynddi, a gwelwn enw Jehofah mewn llythrennau Hebraeg uwch ein pen. Dywedodd yr athraw wrthyf mai yn yr ystafell hon yr arhosai Countess Huntingdon pan ar ymweliad â Howel Harris, ac y mae’n sicr fod arddeliad mawr wedi bod ar lawer dyledswydd deuluoidd yn yr ystafell gysegredig.

Trefeca. Rhan o’r wyneb
Trefeca. Rhan o’r wyneb

Treuliais amryw ddyddiau dedwydd yn Nhrefeca. Crwydrwn, wrth f’ewyllys, drwy’r ystafelloedd lluosog, fu unwaith yn gartref i “deulu” rhyfedd Howel Harris. Teimlwn fod Trefeca yn gynllun o goleg,—mewn lle iach tawel. Hen weithdy’r “Teulu” ydyw un o’r ystafelloedd darlithio, a danghoswyd i mi dwll trwy yr hwn y gallai Howel Harris weled, yr adeg a fynnai, pa fodd yr oedd pethau’n mynd ymlaen yn y gweithdy. Y mae’r llyfrgell yn cynnwys un o’r casgliadau goreu o lyfrau Cymraeg welais erioed; casglwyd hi, yr wyf yn meddwl, trwy lafurus gariad y Parch. Edward Matthews. Cynhwysa hefyd ddyddiaduron a llythyrau Howel Harris, a llawer o lythyrau ereill deifl oleuni dyddorol iawn ar gynlluniau a gwaith Howel Harris.

Nid oes fawr o ffordd o Drefeca i Lyn Safaddan. Llecyn mwyn ydyw’r llyn hwn, treuliais ddiwrnod hyfryd ar ei ddyfroedd. Croesasom ef droion a gadawsom i’r cwch sefyll ymysg yr hesg tal sy’n tyfu o waelod y llyn tra’r oeddym yn gwylio’r eleirch ac yn mwynhau’r golygfeydd oedd wedi ymddelwi yn y dyfroedd clir. Dyma le tawel, lle wrth fodd y myfyrgar, dan gysgod Mynydd Troed, ac o fewn ychydig i gyrchfannau miloedd glowyr y Deheudir. Tra’n mwynhau’r awelon hafaidd, cofiwn am y traddodiad sydd ynglŷn a’r llyn,—fod ei ddyfroedd yn cuddio dinas bechadurus suddodd i’r ddaear dan bwys ei drygioni.

Gadewais Drefeca yn blygeiniol, ac yr oedd awel iach y bore yn gwneyd fy meddwl yn ddigon effro i gofio darluniad Williams adeg marw Howel Harris,—

“Mi af heibio i’r palas euraidd Sydd â’r angel ar ei ben, ’Drychaf ar y castell cadarn Sy a’i begynau yn y nen; Ac mi rof ochenaid ddofon, Gan ryw synnu ynnwyf f’hun, Fel mae’r nef yn trefnu ei throion I ddiddymu dyfais dyn.

“Er cadarned yw’r adeilad, Ac er teced yw ei wedd, Y mae’r perlyn goreu ynddo Heddyw’n gorwedd yn ei fedd Ac nis gwel e mwy mo hono Fel y gwelodd ef o’r bla’n, Hyd y dydd bo’n cael ei losgi Gyda’r byd yn danllwyth dân.”

Steps leading to house
Steps leading to house
Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings