NODIADAU.
Reading edition
I.
Tybed fy mod wedi codi awydd ar rywun, yn y dalennau sydd yn y llyfr hwn, i fyned ar bererindod i rai o gartrefi Cymru; neu i grwydro dros fynyddodd anwyl ein gwlad? A yw daear gwlad ein tadau ychydig yn fwy cysegredig i rywun ar ol darllen y peth ysgrifennais?
Ein gwlad ni ydyw. Y mae wedi ei chysegru â hanes ein cenedl. Ynddi hi y gorwedd ein tadau; mae eu beddau’n sancteiddio’i daear, o fedd Owen Gwynedd yn eglwys gadeiriol Bangor i fedd Islwyn ymysg bryniau hyfryd Gwent. Mae cartrefi yma ac acw hyd-ddi, a phlant ynddynt, llawn o fywyd a gobaith, fel y gwroniaid fu ynddynt gynt; onid gwaith da yw dangos i’r plant gyfeiriad camrau y rhai gychwynnodd o’r cartrefi hynny o’u blaen?
II.
Gallu grymus fu gwladgarwch erioed, ac er daioni bob amser. Y mae hunan-aberth ynddo, collir hunan mewn gwlad; y mae ymsancteiddio ynddo,—llosga hunanoldeb fel sofl sych a difa’r hen lid teuluol sy’n chwerwder bywyd barbaraidd, a dug ddyn yn nes at Dduw. Yng ngrym ei wladgarwch y mae nerth pethau goreu cymeriad dyn; yn erbyn gwladgarwch y mae’r pethau gwaelaf yn ei gymeriad,—awydd am elw, cas at ei gyd-ddyn, rhagfarn. Ai arwydd o ddiffyg gallu mewn gwleidyddwr yw gwladgarwch? Os felly, condemnier Alffred Fawr, y brenin galluocaf fu gan y Saeson erioed? Ai arwydd o wendid meddyliol ydyw? Os felly condemnier Dante, y gŵr o feddwl cawraidd wnaeth i syniadau’r Canol Oesoedd fyw byth.
III.
Cartrefi gwledig Cymru yw yr unig gofgolofnau i arwyr ein hanes ni. Dinod,—anadnabyddus yn aml,—yw eu beddau; nid yw eu gwlad eto wedi codi llawer o gofgolofnau i’w henw, oherwydd tlodi, nid oherwydd diffyg serch. Ond y mae’r cartrefi’n aros. Nid adnabyddir lle bedd Llywelyn na John Penri na Goronwy Owen, ond gwyddom pa le y buont yn chware pan yn blant.
Ni bydd cyfundrefn addysg Cymru’n gyflawn heb amgueddfa genhedlaethol. Nis gwn pryd y daw, ond y mae y bardd wedi ei gweled trwy ffydd.
IV.
“I’r Oriel Wen daw tyrfa lân, O oes i oes, i wenu’n gu A’r ddelwau gwyn y dewrion hyn,— Y tad a’i fab, y fam a’i merch, Y llanc a’i rian wylaidd rudd, A’r gwron hen yn fyr ei gam, A’i ben yn wyn gan flodau hedd, A’r byd o’i ol a’r nef o’i flaen, A’i ŵyr bach gwrol yn ei law A’r byd a’i droion fyrdd i’w gwrdd,— ‘Gwel yma, blentyn, dyrfa gain, Gwroniaid dewr anfonodd Duw. I fyw a marw er ein mwyn.
Caradog hwn, yn hawlio’n hyf Ei serch i’w fwthyn tlawd a’i wlad O flaen gorseddfainc teyrn y byd. A llyma Llywarch Hen y bardd, Yn gwyro’n drwm ar faglau pren, Ag enaid arwr yn ei wedd Yn gwylio’r rhyd ar fedd ei fab.
Ac wele drindod fu yn dwyn Yr enw Owen, mwyn ei sain,— Y cynta’n canu ’i hirlas gorn; Y llall â llain yn medi’n ddwys Ym maes Coed Eulo; ’r olaf un, Gwr hir y glyn, ‘a gwaew o dân, Dyred, dangos dy darian.’ Ab Einion draw yn gwylio’r aig A thelyn Harlech yn ei law.
Saif yma ddau, O enwau per,— Llywelyn Fawr wnaeth Gymru’n un; A’i ŵyr ef, olaf lyw ein gwlad, Ei fywyd drosti’n aberth roes, A chŵyn yr awel fyth ei frad Ar fryniau Buallt—lleddfus dôn.’”
—R. Bryan.
V.
Ganwyd Ann Griffiths yn Nolwar Fach, Llanfihangel yng Ngwynfa, yn 1776. Claddwyd hi Awst 12, 1805. Geneth nwyfus, hoff o ymblesera oedd, nes clywodd bregeth gan Benjamin Jones, Pwllheli, yn Llanfyllin. Crwydrodd lawer i gymuno i’r Bala, dros y Berwyn maith unig. Ac onid oes beth o fawredd dieithr y mynyddoedd yn ei chân?
Llyfr bychan dyddorol iawn yw Cofiant Ann Griffiths, gan Morris Davies, Bangor. Cynhwysa hefyd ei llythyrau a’i hemynnau; cyhoeddir ef gan Mr. Gee. Dinbych; ei bris yw dau swllt. Dyma ddau ddyfyniad o hono.
“Byddai golwg ddymunol iawn ar y teulu yn Nolwar yn nyddu, a’r hen ŵr yn gardio, ac yn canu carolau a hymnau. Droion ereill, byddai distawrwydd difrifol megis yn teyrnasu yn eu plith. Byddai Ann yn nyddu, a’i Beibl yn agored o’i blaen mewn man cyfleus, fel y gallai gipio adnod i fyny wrth fyned ymlaen â’i gorchwyl heb golli amser. Mi a’i gwelais wrth y droell mewn myfyrdod dwfn, heb sylwi ar nemawr ddim o’i hamgylch, a’r dagrau yn llifo dros ei gruddiau, lawer gwaith.”
“Yn Hydref, 1804, priododd Miss Ann Thomas â Mr. Thomas Griffiths, brawd i’r diweddar Barchedig Evan Griffiths, Ceunant, Meifod. Yr oedd efe yn ŵr ieuanc o deulu parchus, o’r un naws grefyddol a hithau; yr oeddynt hefyd yn agos i’r un oedran, ac yn anwyl iawn o’u gilydd, fel yr oedd eu hundeb priodasol yn cael edrych arno gan eu cyfeillion a’u cydnabod yn un hapus iawn. Daeth efe, ar ol eu priodas, i fyw ati hi i Ddolwar Fechan.
“Ymhen deng mis ar ol priodi, esgorodd Mrs. Griffiths ar ferch, yr hon o’i genedigaeth oedd yn blentyn gwannaidd iawn, a bu farw yn bythefnos oed. Ymadawodd y fam serchog ymhen pythefnos ar ol ei merch fechan, er galar trwm i’w phriod trallodedig, a lliaws mawr o berthynasau a chyfeillion crefyddol.”
VI.
Ar ol tynnu’r darlun sydd yn y llyfr hwn, y mae’r Tŷ Coch, hen gartref Ap Fychan, wedi ei dynnu i lawr, ac y mae tŷ newydd ar ganol ei adeiladu. Bum heibio Dan y Castell hefyd ddiwedd yr haf diweddaf; cefais ef ar ei draed, ond heb neb yn byw ynddo. Y mae Castell Carn Dochan uwch ben mor gadarn ag erioed, a hen fro hanesiol Penanlliw mor ramantus.
VII.
Merch Hafod Lwyfog, Bedd Gelert, oedd gwraig Elis Wynn o Lasynys,—Lowri Llwyd wrth ei henw. Hysbyswyd fi na chladdwyd Elis Wynn dan allor eglwys Llanfair. Yr oedd set Glasynys wrth dalcen yr allor, a than honno y claddwyd “Bardd Cwsg.” Ond, erbyn heddyw, y mae allor yr eglwys newydd wedi ei hestyn dros y set a thros y bedd.
VIII.
Gresyn fod “Ieuan Gwynedd, ei fywyd a’i lafur, gan Robert Oliver Rees, Dolgellau” mor brin. “Llyfr i bobl ieuainc” ydyw; ac y mae’n un o’r llyfrau mwyaf bendithiol y gall bachgen neu eneth ei ddarllen byth. Y sawl a’i meddo, rhodded fawr bris arno.
IX.
Nis gwn ddim i sicrwydd am Ddewi Sant. Nid wyf yn barod i ddweyd ei fod yn fwy na bod hanner dychmygol, fel Arthur.
X.
Cyflwynir y llyfr hwn i rieni Cymru, lle mae gwaith a serch yn gwneyd y cartref yn lân a santaidd; ac i blant Cymru, a gofiant am eu cartrefi anwyl byth.