← Table of contents
Gwaith Mynyddog. Cyfrol II

MYNYDDOG. (continued 2)

Reading edition

O DEWCH I BEN Y MYNYDD.

(Y gerddoriaeth gan Mr. D. Emlyn Evans).

O dewch i ben y mynydd draw, I weld yr haul yn machlud, A natur gyda’i thyner law Yn cau amrantau bywyd.

Fel arwr dan ei glwyf yr huan cun Orwedda’n bruddaidd yn ei waed ei hun, A’r llen sy’n derfyn rhwng y nos a’r dydd A deflir dros ei wyneb prudd.

Ond wele’r ser yn filoedd Ar hyd yr wybren dlôs, Mor ddisglair y cabolwyd Botymau gwisg y nos; Os yw yr haul yn dangos Prydferthion daear gref, Mae’r nos, er twylled ydyw, Yn dangos mwy o’r nef.

OS YDYM AM FYND TRWY Y BYD.

Os ydym am fynd trwy y byd Heb gwrdd â phrofedigaeth, A chael yr haul uwch ben o hyd, Heb gwmwl siomedigaeth; A throi gofidiau o bob rhyw, I gyd yn fêl a menyn, Y ffordd i ni yw dysgu byw I gyd ’run fath a’r gwenyn.

Awn fel y gwenyn at ein gwaith, Pan d’wyna haul y borau, Bydd melus dod yn ol o’r daith Dan lwyth o’r golud gorau; Dos, ddyn, i’r maes, ac yno gwel Ryw gyfoeth ar bob cangen, Mae Duw yn dangos lle mae’r mêl I’r sawl sydd arno’i angen.

Os gwlawia’r nen drallodion lawr, Paid bod yn llwfrddyn claear, A phaid a gwneud rhyw fynydd mawr O dwmpath pridd twrch daear; Os gweli rywdro yspryd syn, Wel, paid a mynd i grynu, Sylldremia yn ei wyneb gwyn, Mae’n sicr o ddychrynu.

Os daw ynfydion ar eu taith I gynnyg dy hyfforddi, Dos di ymlaen i wneud dy waith Ynghanol eu baldorddi; Os daw celwyddau gyda’r gwynt, ’Run fath a’r gwynt darfyddant, Mae rhaffau celwydd ym mhob hynt Yn crogi’r rhai a’u nyddant.

Mae’n rhaid i’r storm gael rhuo’n brudd, A ffyliaid fod yn ffyliaid, Er hynny, synwyr wêl y dydd I gladdu pennau byliaid; Gan hynny rhwym dy wregys cryf Pan fflachia’r mellt yn d’ymyl, Ac edrych am yr haul yn hŷf— Mae ef tu ol i’r cymyl.

Os wyt am gadw ar ffordd y gwir A gochel bradus heidiau, Gwell iti gadw’th draed o dir Gwleidyddiaeth a’i holl bleidiau; Mae “A. B. C.” gwleidyddwyr tynn A “V” ar ben y wyddor, Ond main yw’r lle a geir i’r hyn A elwir yn egwyddor.

Paid gwisgo’th galon ar dy fraich Os na fydd eisieu hynny, A phaid a chrymu dan dy faich, Ond cwyd dy ben i fyny; Boed gwres ymroddiad yn dy waed, A dywed trwy bob tywydd, Fod daear rhyddid dan dy draed, A Duw uwch ben yn llywydd.

MIL MWY HUDOL.

Byron enwog fu’n darlunio Merch â blodau yn ei llaw, Y peth tlysaf a fedd natur, Er ei chwilio drwyddi draw; A! ti fethaist, Byron ddawnus, Er dy fost, dy glôd, a’th fri, Swyn i’r llygad sydd yn unig Yn dy arlun clodfawr di.

Mil mwy liudol i fy nghalon Clywed merch, cartrefle swyn, Fel yn arllwys ei llais treiddgar Am ben llais piano mwyn; Seiniau natur yn ymblethu Gyda sain offeryn hardd,— Dawn a dysg yn ymgofleidio Dodda galon dyner bardd.

Wrth im’ weld ei bysedd meinion Fel yn dawnsio gyda hoen, Ar allweddau yr offeryn— Ffoai gofid, ciliai poen; Teimlwn fysedd cudd tynerwch Ar holl dannau’m calon wan, Bron na syrthiais i ber-lewyg Gan y swyn oedd yn y fan.

Anwyl eneth, wrth im’ wrando Ar eich llais, oedd imi’n wledd— Gweled delw gwir brydferthwch Fel yn eistedd ar eich gwedd, Dychymygais mewn mynydyn Fod angylion Gwynfa lân, Rhwng eich dysg, eich moes, a’ch doniau, Yn eiddigus wrth eich cân.

O! DEDWYDD BOED DY HUN.

(“Oh! happy be thy dreams”).

O! dedwydd, dedwydd, bo dy hûn, Llawn o ddedwyddwch fo’th freuddwydion di; Y bryniau aur sydd byth dan heulog hin, A’r awyr las sy’n ddwyfol glir i ti; Fry, fry, mae ysbryd pur dy fam, Draw’n gwylio dros dy hûn rhag it’ gael cam, Mor bur a’r ser sy’n gwylio dros dy lun, O! dedwydd, dedwydd, bo dy hûn.

O! dedwydd, dedwydd, bo dy fywyd di, Mae’th fam yn gwylio’th gwsg o’r nef yn awr; A’r llaw fu’n arwain hon i’r gwynfyd fry Fo eto i’th arwain di trwy’r cystudd mawr; Bydd llygaid engyl gyda llygad mam Byth, byth, i’th gadw rhag cael unrhyw gam, Cwsg tra mae’r ser yn gwylio uwch dy lun, O! dedwydd, dedwydd, bo dy hûn.

’RWY’N DOD, ’RWY’N DOD.

(Just as I am).

Er mwyn y gwaed, fy Iesu hael, Mae gobaith i bechadur gwael; Ac fel yr un aflana’n bod, At orsedd gras—’rwy’n dod, ’rwy’n dod.

Ni oedaf funud awr yn hwy Heb guddio f’ hun mewn marwol glwy’, Wrth droed dy groes yw’r fan i fod, Fy Nghrist, fy Nuw,—’rwy’n dod, ’rwy’n dod.

Er cael fy nhaflu ar bob llaw, Gan ofn gelynion yma a thraw; Ac er fod ofnau câs yn bod, O fewn fy mron,—’rwy’n dod, ’rwy’n dod.

Er mod i ’n ddall, yn noeth, yn dlawd, Mae’r Hollgyfoethog imi’n frawd, A thrysor penna’r nef sy’n bod, Yng nghroes fy Nuw,—’rwy’n dod, ’rwy’n dod.

’Rwy’n credu’r hen addewid wiw, Fod maddeu’n nghalon dyner Duw; Cael claddu’m meiau yw fy nôd, Yng nghlwyfau’r Oen,—’rwy’n dod, ’rwy’n dod.

Gwnaeth cariad Crist y ffordd yn rhydd, O wlad y nos i wlad y dydd; Mae miloedd yno’n canu ’i glôd, ’Rwyf fìnnau’r gwan, yn dod, yn dod.

DIWEDD.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings