Note {39} — MYNYDDOG.
Reading edition
Ymddengys fod Cymru, tua’r amser y priododd Syr Owen Tudur â’r frenhines Catherine, a’i rhagolygon yn dra thywyll. Yr oedd Owen Glyndwr yn ei fedd ers llawer o flynyddoedd, wedi oes o ymdrech deg i gadw annibyniaeth ei genedl, a’r ymdrech honno wedi troi yn fethiant. Cynllun y Gantawd ydyw fod cynhadledd o uchelwyr a phendefigion a phendefigesau Cymru wedi ymgynnull mewn man penodol i ymdrin ac i drafod sefyllfa ddirywiedig y wlad. Dychmygir hefyd fod yno fardd a cherddor yn bresennol, fel y byddai braidd bob amser mewn cynhulliadau o’r fath yn yr oesau hynny. Pan oedd y bardd a’r telynor yn canu y pennill cyntaf yn y Gantawd, y mae cennad yn dyfod i mewn yn hysbysu fod Syr Owen Tudur yn myned i’w briodi â’r frenhines Catherine. Danghosir ychydig o wahaniaeth barn rhyngddynt yn y mater ar yr olwg gyntaf.