Note 7 — Chapter III · Fairy Ways and Words
Reading edition
Mi’r oeđ gwr a gwraig yn byw yn y Garth Dorwen7 ryw gyfnod maith yn ol, ag aethant i Gaer’narfon i gyflogi morwyn ar đyđ ffair G’langaeaf, ag yr oeđ yn arferiad gan feibion a merched y pryd hynny i’r rhai oeđ yn sefyỻ aỻan am lefyđ aros yn top y maes presennol wrth boncan las oeđ yn y fan y ỻe saif y Post-office presennol; aeth yr hen wr a’r hen wraig at y fan yma a gwelent eneth lan a gwaỻt melyn yn sefyỻ ’chydig o’r neiỻdu i bawb araỻ; aeth yr hen wraig ati a gofynnođ i’r eneth oeđ arni eisiau ỻe. Atebođ fod, ag feỻy cyflogwyd yr eneth yn đioed a daeth i’w ỻe i’r amser penodedig. Mi fyđai yn arferiad yr adeg hynny o nyđu ar ol swper yn hirnos y gauaf, ag fe fyđai y forwyn yn myn’d i’r weirglođ i nyđu wrth oleu y ỻoer; ag fe fyđai tylwyth teg yn dwad ati hi i’r weirglođ i ganu a dawnsio. A ryw bryd yn y gwanwyn pan esdynnođ y dyđ diangođ Eilian gyd a’r tylwythion teg i ffwrđ, ag ni welwyd ’mo’ni mwyach. Mae y cae y gwelwyd hi điwethaf yn cael ei alw hyd y dyđ heđyw yn Gae Eilian a’r weirglođ yn Weirglođ y Forwyn. Mi’r oeđ hen wraig y Garth Dorwen yn arfer rhoi gwrageđ yn eu gwlâu, a byđai pawb yn cyrchu am dani o bob cyfeiriad; a rhyw bryd dyma wr boneđig ar ei geffyl at y drws ar noswaith loergan ỻeuad, a hithau yn glawio ’chydig ag yn niwl braiđ, i ’nol yr hen wreigan at ei wraig; ag feỻy aeth yn sgil y gwr dïarth ar gefn y march i Ros y Cowrt. Ar ganol y Rhos pryd hynny ’r oeđ poncan ỻed uchel yn debyg i hen amđiffynfa a ỻawer o gerrig mawrion ar ei phen a charneđ fawr o gerrig yn yr ochor ogleđol iđi, ag mae hi i’w gwel’d hyd y dyđ heđyw dan yr enw Bryn y Pibion. Pan gyrhaeđasan’ y ỻe aethan’ i ogo’ fawr ag aethan’ i ’stafeỻ ỻe’r oeđ y wraig yn ei gwely, a’r ỻe crandia’ a welođ yr hen wraig yrioed. Ag fe roth y wraig yn ei gwely ag aeth at y tan i drin y babi; ag ar ol iđi orphen dyna y gwr yn dod a photel i’r hen wraig i hiro ỻygaid y babi ag erfyn arni beidio a’i gyffwr’ a’i ỻygaid ei hun. Ond ryw fođ ar ol rhoi y botel heibio fe đaeth cosfa ar lygaid yr hen wraig a rhwbiođ ei ỻygaid â’r un bys ag oeđ wedi bod yn rhwbio ỻygaid y baban a gwelođ hefo ’r ỻygad hwnnw y wraig yn gorfeđ ar docyn o frwyn a rhedyn crinion mewn ogo’ fawr o gerrig mawr o bob tu iđi a ’chydig bach o dan mewn rhiw gornel, a gwelođ mai Eilian oeđ hi, ei hen forwyn, ag hefo’r ỻygad araỻ yn gwel’d y ỻe crandia’ a welođ yrioed. Ag yn mhen ychydig ar ol hynny aeth i’r farchnad i Gaer’narfon a gwelođ y gwr a gofynnođ iđo—‘Pa sud mae Eilian?’ ‘O y mae hi yn bur đa,’ međai wrth yr hen wraig: ‘a pha lygad yr ydych yn fy ngwel’d?’ ‘Hefo hwn,’ međai hithau. Cymerođ babwyren ag a’i tynođ aỻan ar unwaith.