← Table of contents
Celtic Folklore, Welsh and Manx (Volume 1 of 2)

Note 23 — Chapter III · Fairy Ways and Words

Reading edition

Dychwelođ y wraig, a thrannoeth dilynođ gyfarwyđyd y ‘dyn cynnil’ i’r ỻythyren. Yr oeđ y gwr bychan yn sefyỻ yn ei hymyl, ac yn sylwi arni yn fanwl. Ym mhen ychydig, gofynnođ, ‘Mam, beth ’i ch’i ’neuthur?’ ‘Cymysg pastai’r fedel, machgen i.’ ‘O feỻy. Mi glywais gan fy nhad, fe glywođ hwnnw gan ei dad, a hwnnw gan ei dad yntau, fod mesen cyn derwen, a derwen mewn dâr23; ond ni chlywais i na gweled neb yn un man yn cymysg pastai’r fedel mewn masgal ŵy iar.’ Sylwođ y wraig ei fod yn edrych yn hynod o sarug arni pan yn siarad, ac yr oeđ hynny yn ychwanegu at ei hagrwch, nes ei wneuthur yn wrthun i’r pen.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings