← Table of contents
Celtic Folklore, Welsh and Manx (Volume 1 of 2)

Note 17 — Chapter III · Fairy Ways and Words

Reading edition

Amgylchynir y Marchlyn Mawr gan greigiau erchyỻ yr olwg arnynt; a dywed trađodiad đarfod i un o feibion y Rhiwen17 unwaith tra yn cynorthwyo dafad oeđ wedi syrthio i’r creigiau i đod ođiyno, đarganfod ogof anferth: aeth i fewn iđi a gwelođ ei bod yn ỻawn o drysorau ac arfau gwerthfawr; ond gan ei bod yn dechreu tywyỻu, a dringo i fynu yn orchwyl anhawđ hyd yn nod yn ngoleu’r dyđ, aeth adref y noswaith honno, a boreu drannoeth ar lasiad y dyđ cychwynnođ eilwaith i’r ogof, ac heb lawer o drafferth daeth o hyd iđi: aeth i fewn, a dechreuođ edrych o’i amgylch ar y trysorau oeđ yno:—Ar ganol yr ogof yr oeđ bwrđ enfawr o aur pur, ac ar y bwrđ goron o aur a pherlau: deaỻođ yn y fan mai coron a thrysorau Arthur oeđynt—nesaođ at y bwrđ, a phan oeđ yn estyn ei law i gymeryd gafael yn y goron dychrynwyd ef gan drwst erchyỻ, trwst megys mil o daranau yn ymrwygo uwch ei ben ac aeth yr hoỻ le can dywyỻed a’r afagđu. Ceisiođ ymbalfalu ođiyno gynted ag y gaỻai; pan lwyđođ i gyrraeđ i ganol y creigiau taflođ ei olwg ar y ỻyn, yr hwn oeđ wedi ei gynhyrfu drwyđo a’i donnau brigwynion yn cael eu ỻuchio trwy đaneđ ysgythrog y creigiau hyd y man yr oeđ efe yn sefyỻ arno; ond tra yr oeđ yn parhau i syỻu ar ganol y ỻyn gwelai gwrwgl a thair o’r benywod prydferthaf y disgynođ ỻygad unrhyw đyn arnynt erioed ynđo yn cael ei rwyfo yn brysur tuag at enau yr ogof. Ond och! yr oeđ golwg ofnadwy yr hwn oeđ yn rhwyfo yn đigon i beri iasau o fraw trwy y dyn cryfaf. Gaỻođ y ỻanc rywfođ đianc adref ond ni fu iechyd yn ei gyfansođiad ar ol hynny, a byđai hyd yn nod crybwyỻ enw y Marchlyn yn ei glywedigaeth yn đigon i’w yrru yn waỻgof.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings