Note 20 — Chapter I · Undine’s Kymric Sisters
Reading edition
Y mae hanes am fab i amaethwr a breswyliai yn yr Ystrad20, Betws Garmon21, pan yn dychwelyd adref o daith yn hwyr un noswaith, đarfod iđo weled cwmni o’r Tylwyth Teg ynghanol eu hafiaeth a’u glođest. Syfrdanwyd y ỻanc yn y fan gan degwch anghymarol un o’r rhianod hyn, fel y beiđiođ neidio i ganol y cylch, a chymeryd ei eilun gydag ef. Wedi iđi fod yn trigo gydag ef yn ei gartref am ysbaid, cafođ ganđi ađaw bod yn wraig iđo ar amodau neiỻduol. Un o’r amodau hyn ydoeđ, na byđai iđo gyffwrđ ynđi ag un math o haiarn. Bu yn wraig iđo, a ganwyd iđynt đau o blant. Un diwrnod yr oeđ y gwr yn y maes yn ceisio dal y ceffyl; wrth ei weled yn ffaelu, aeth y wraig ato i’w gynorthwyo, a phan oeđ y march yn carlamu heibio goỻyngođ yntau y ffrwyn o’i law, er mwyn ceisio ei atal heibio; a phwy a darawođ ond ei wraig, yr hon a điflannođ yn y fan aỻan o’i olwg?